Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Hayley Walters

Mae Hayley Walters, asesydd Prentisiaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn eithriadol o frwd dros gefnogi pobl eraill.

Mae Hayley, 32, sy’n gweithio i Itec Training Solutions yng Nghaerdydd, yn defnyddio’r wybodaeth werthfawr a gasglodd dros 13 blynedd yn gweithio mewn cartrefi nyrsio a chanolfannau iechyd a gofal cymdeithasol er budd dysgwyr, cydweithwyr a’i chyflogwr.

Ymunodd Hayley ag Itec dair blynedd yn ôl ar ôl gwneud Prentisiaethau Lefel 2 a 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a chymhwysodd yn asesydd yn fuan iawn. Y cam nesaf fydd Dyfarniad Sicrhau Ansawdd Mewnol Lefel 4.

Caiff Hayley ei chanmol am gefnogi dysgwyr a chydweithwyr fel ei gilydd. Mae’n rhannu arferion gorau a hi yw’r pwynt cyswllt ar gyfer aseswyr newydd dan hyfforddiant a’r cymhwyster newydd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.