Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Kepak Group Ltd

Elfen ganolog yn llwyddiant un o brif gyflogwyr Merthyr Tudful i feithrin gweithlu medrus yw'r gallu i greu ei hyfforddwyr mewnol ei hun i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr.

Ddim ond 18 mis ar ôl i’r Kepak Group Limited fabwysiadu trefn hyfforddi newydd sy'n seiliedig ar waith, mae’r cwmni eisoes wedi elwa o weld gostyngiad o 15% yn nhrosiant staff ac mae'r prentisiaid cyntaf eisoes yn symud i fyny i swyddi uwch.

Ar hyn o bryd, mae deugain o weithwyr yn dilyn prentisiaethau sy’n cynnwys:

  • Sgiliau’r Diwydiant Cig a Dofednod (Lefelau 2 a 3)
  • Sgiliau’r Diwydiant Bwyd (Lefelau 2 a 3)
  • Arwain Tîm Bwyd (Lefel 2)
  • Rheoli Bwyd (Lefel 3)
  • Rhagoriaeth Gweithgynhyrchu Bwyd (Lefel 4)
  • Rheolaeth (Lefel 4 a 5)

Cyflenwir pob un o’r prentisiaethau gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.