Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Malgorzata Bienko

Mae Malgorzata Bienko, prentis o Wlad Pwyl, wedi goresgyn rhwystrau iaith a nam ar ei chlyw gan ddod yn aelod gwerthfawr o’r tîm yn School Lane Preschool, Llandudno.

Mae Malgorzata, 41, wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, a ddarperir gan Hyfforddiant Arfon Dwyfor Cyfyngedig.

Ar ôl gweithio am gyfnod yn y sector gofal cymdeithasol, mae hi wedi addasu’n gyflym i weithio gyda phlant bach ac mae wrth ei bodd â’i swydd lle caiff ei hannog i rannu diwylliant a thraddodiadau Gwlad Pwyl.

Ar ôl ennill Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo Menai a Gradd BA mewn Darlunio o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam, mae Malgorzata yn cyfuno’i holl sgiliau wrth weithio gyda phlant ar brosiectau celf a chrefft.