Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Olivia Headley-Grant

Mae gan brentis o'r enw Olivia Headley-Grant uchelgais heintus i wneud pethau’n well, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon yn ei thîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Ymunodd Olivia, 18, o’r Barri, â thîm y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ym maes cynllunio strategol fel prentis yn ystod y pandemig a chwblhaodd Brentisiaeth Sylfaen City & Guilds mewn Gweinyddu Busnes, a gyflenwyd gan Goleg Caerdydd a’r Fro, fis Tachwedd diwethaf.

Er iddi orfod gweithio o bell yn ystod y pandemig, mae Olivia wedi ffynnu yn ystod ei phrentisiaeth ac wedi sicrhau swydd fel cynorthwyydd gweinyddol.

Mae wedi creu argraff ar bawb gyda’i gwaith i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ar amrywiaeth o brosiectau ar gyfer y GIG, awdurdodau lleol a’r trydydd sector i helpu i wella profiad pobl o ofal trwy wasanaethau cydgysylltiedig.