Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Si Lwli

Mae Si Lwli, meithrinfa ddydd Gymraeg yng Nghaerdydd, yn defnyddio prentisiaethau i ddatblygu gweithwyr medrus i roi'r gofal gorau posibl i deuluoedd a phlant.

Mae Si Lwli, sydd ag 20 o staff, yn rhannu arferion gorau â meithrinfeydd eraill ac yn dysgu oddi wrthynt er mwyn i'r staff wella'u sgiliau a'u gwybodaeth yn barhaus.

Mae gan y cwmni saith prentis sy’n gweithio tuag at Brentisiaethau mewn Gofal Plant o Lefelau 2 i 4 ac mae’r ddwy reolwr, Kimberley Hellyar a Sophie Lewis, wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Cyflenwir yr holl brentisiaethau gan y darparwr hyfforddiant Educ8 Training o Ystrad Mynach a dywed Si Lwli eu bod wedi galluogi’r feithrinfa i feithrin enw da am ddarparu gofal o safon uchel trwy hyfforddi, datblygu a chadw staff medrus.