Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Victoria Morris

Mae Victoria Morris, asesydd gyda’r darparwr hyfforddiant Educ8 Training, yn manteisio i’r eithaf ar ei phrofiad o dros 20 mlynedd yn gweithio yn y sector gofal plant.

Canmolwyd Victoria, 52, sy’n byw ger Caerffili, am “safon eithriadol ac ysbrydoledig” ei gwaith ac mae’n defnyddio'i gwybodaeth a’i sgiliau i gefnogi prentisiaid, cyflogwyr a’i chydweithwyr.

Bu'n gweithio mewn lleoliadau gofal plant yn amrywio o ysgolion cynradd i ofal dydd preifat a chlybiau ar ôl ysgol, gan wneud gwaith uwch-arweinydd a rheoli tîm o staff.

Ar ôl ymuno ag Educ8 Training ddwy flynedd yn ôl, cymhwysodd Victoria fel asesydd ac mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal Plant a Phrentisiaeth mewn Gwaith Chwarae. Erbyn hyn, mae hi’n cyflenwi’r prentisiaethau hyn o Lefel 2 i 5.