Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Willow Daycare

Mae’r penderfyniad i gychwyn busnes newydd yn anterth y pandemig Covid-19 wedi dwyn ffrwyth i feithrinfa yng Nghaerfyrddin.

Lansiodd Rebecca Davies fusnes Willow Day Care ar dir Ysbyty Cyffredinol Glangwili, ar ôl gweld bod prinder difrifol o gymorth gofal plant, yn enwedig i staff y GIG.

O'r dechrau, rhoddwyd pwyslais cryf ar hyfforddi staff trwy brentisiaethau, ac mae’r busnes wedi gweld cynnydd syfrdanol o 1,600% yn nifer y plant sy’n mynychu, o saith ar y dechrau i 130 flwyddyn yn ddiweddarach ac 20 o weithwyr.

Mae Willow Day Care yn cynnig Prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant yn ogystal â Gwaith Chwarae Lefel 3. Fe'u cyflwynir gan TSW Training.