Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ysgol Uwchradd y Drenewydd

Mae Prentisiaethau Uwch wedi helpu Ysgol Uwchradd y Drenewydd i symud allan o fesurau arbennig trwy wella arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol, ynghyd â safonau addysgu a dysgu.

Rhoddwyd yr ysgol, sydd â 1,200 o ddisgyblion, o dan fesurau arbennig yn dilyn arolygiad gan Estyn yn 2015 pan nodwyd gwendidau mewn arweinyddiaeth a rheolaeth, hunanasesu a chynllunio cyffredinol ar gyfer gwelliant parhaus.

Er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn, mae 18 aelod o'r staff naill ai wedi cwblhau neu’n gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch (Lefelau 4 a 5) mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant Portal Training o Gaerdydd.

Mae safonau wedi gwella trwy’r ysgol gyfan ac fe godwyd y mesurau arbennig ym mis Hydref y llynedd. Mae lefel presenoldeb wedi codi gan fynd â'r ysgol o'r 25% isaf i'r 25% uchaf yng Nghymru o fewn blwyddyn.