Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Amy Evans

Mae cwblhau Prentisiaeth Uwch dros bedair blynedd a hithau mewn swydd beirianneg lawn-amser wedi tanio brwdfrydedd Amy Evans dros waith rheoli prosiectau. 

Mae Amy, 42 oed, o Ben-y-bont ar Ogwr yn beiriannydd prosiectau cymwysedig gyda Zimmer Biomet, arweinydd byd-eang ym maes technoleg feddygol. Yno, canfu ffordd o wella'r broses weithgynhyrchu sy'n arbed £180,000 y flwyddyn ac yn defnyddio llai o sylweddau seiliedig ar doddyddion. 

Mae ei Phrentisiaeth Uwch mewn Gweithrediadau Gweithgynhyrchu Uwch, BEng, gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi rhoi’r hyder iddi arwain prosiectau sy’n hybu llwyddiant y cwmni. 

Mae'r cwmni'n ddiolchgar i Amy am wella'u proses rheoli prosiectau, gan sicrhau bod gwell gwelededd a chyfathrebu yn rhoi hwb i brosiectau yn awr ac yn y dyfodol.