Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Anne Reardon-James

Yn ôl ei chyflogwr, mae Anne Reardon-James “yn ymgorfforiad o ddysgu gydol oes”. Mae ganddi syched am wybodaeth ac yna mae’n ei rhannu i ysbrydoli ei dysgwyr a’i chydweithwyr yn y rhwydwaith dysgu ôl-16 yng Nghymru. 

Mae Anne, 46, o’r Barri, yn gynghorydd dysgu gyda Panda Education and Training, sy'n darparu Prentisiaethau Dysgu a Datblygu, mewn partneriaeth ag ALS Training. 

Cafodd ei gwobrwyo am ei hymroddiad â gwobr Ysbrydoli! Tiwtor y Flwyddyn 2023 am Sgiliau Gwaith gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Ar hyn o bryd mae Anne yn gweithio ar Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg. Enillodd radd MA mewn Addysg, TAR, a gradd mewn Gwyddorau Ymddygiad ac mae’n Gymrawd o SET, ac yn Gymrawd Cyswllt o’r CIPD ac HE Advance.