Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mae Academi Brentisiaethau yn creu cenhedlaeth newydd o dalent ffres i fwrdd iechyd ac yn cwrdd â'r her o recriwtio i broffesiynau penodol.

Lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) yr academi yn 2016, gan lwyddo i hyfforddi dros 250 o brentisiaid ar draws naw fframwaith yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf yn unig. Caiff rhaglenni pwrpasol eu teilwra pan welir cyfleoedd neu fylchau mewn sgiliau. Mae BIPBA yn canolbwyntio ar gynhwysiant a chydraddoldeb, gan ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned leol i gynnig cyfleoedd i rai sydd, o bosibl, heb unrhyw gymwysterau na phrofiad. 

Mae BIPBA yn cyflwyno'i raglenni ar y cyd â Choleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Gŵyr Abertawe, ac maent yn darparu cyfleoedd i staff presennol yn ogystal â phrentisiaid newydd.