Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Mae meithrin gallu proffesiynol ei staff presennol ar yr un pryd â recriwtio a hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr proffesiynol yn cadw Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar flaen y gad yn y sector iechyd. 

Bu’r bwrdd iechyd yn uwchsgilio'i weithlu drwy bron ddau ddwsin o brentisiaethau ers 2006 ond cyflymodd ei raglen drwy greu Academi Prentisiaethau yn 2018. Cofrestrodd bron 900 o bobl o'r newydd, yn cynnwys recriwtiaid newydd i’r sector. 

Cynigir cyfleoedd i weithwyr profiadol yn ogystal â newydd-ddyfodiaid i adeiladu gyrfa, gyda llif newydd o dalent yn ymateb i'r her o recriwtio a chadw staff. Mae partneriaethau’n hanfodol er mwyn cyflwyno’r rhaglenni niferus, gyda Talk Training, Educ8, ALS a Choleg Caerdydd a'r Fro yn ymuno â'r prif ddarparwr hyfforddiant ACT i gydweithio â'r bwrdd iechyd.