Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Chelsea Fethney

Mae Chelsea Fethney wedi gwrthod gadael i heriau difrifol mewn bywyd ei chadw rhag gwireddu ei breuddwyd o ddod yn aelod cymwysedig o staff mewn salon gwallt yn Abertawe. 

Llwyddodd y ferch 20 oed i gwblhau ei Phrentisiaeth Sylfaen mewn Trin Gwallt er ei bod yn cefnogi ei mam a’i brawd trwy brofiadau anodd er pan oedd yn ifanc hefyd. 

Byddai’n hawdd gwneud esgusodion, ond mae'r ferch benderfynol wedi defnyddio'i anawsterau teuluol i’w hysbrydoli i gael gyrfa dda. Erbyn hyn, mae'n edrych ymlaen at yr her o symud ymlaen i wneud prentisiaeth, gan nad yw wedi colli yr un diwrnod hyfforddi ar y ffordd i ennill ei chymhwyster. 

Mae Chelsea wrth ei bodd yn ei swydd steilydd llawn amser yn Aspire Art of Hair gan wneud nifer o dasgau eraill gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, marchnata a chysylltu â chleientiaid.