Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Eleri Davies

Mae Eleri Davies, cyfrifydd sydd wedi ennill medal aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, yn benderfynol o wneud gwahaniaeth yn ei gyrfa sy’n datblygu trwy gyfrwng prentisiaethau. 

Cwblhaodd Eleri, 26, sy’n byw yn Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, ei holl brentisiaethau tra oedd yn gweithio i Archwilio Cymru. 

Erbyn hyn, mae'n parhau â'i thaith ddysgu trwy anelu at fod yn Gyfrifydd Siartredig yn ei swydd newydd gyda chymdeithas tai Barcud yng nghanolbarth Cymru. 

Gyda chymorth prentisiaethau, llwyddodd Eleri i ailgydio yn ei gyrfa ar ôl i salwch ei gorfodi i roi’r gorau i Radd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn 2017. Enillodd Dystysgrif Sylfaen AAT Lefel 2 mewn Cyfrifeg, ac yna Ddiploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg, a Phrentisiaeth Uwch mewn Cyfrifeg drwy Grŵp Llandrillo Menai, pob un gyda rhagoriaeth.