Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Gareth Lewis

Disgrifir Gareth Lewis fel ymarferydd dysgu seiliedig ar waith “eithriadol”, sy'n ysbrydoli dysgwyr a chydweithwyr â’i angerdd dros ddysgu a'i ymroddiad i’r diwydiant yswiriant. 

Asesydd gyda thîm gwasanaethau ariannol ALS Training, Caerdydd yw Gareth, 55, o Hirwaun. Mae’n rhagori wrth gyflenwi Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Yswiriant, gyda chyfradd pasio o 80%. 

Ymhlith ei gryfderau mae'r ffordd y mae'n ysgogi pobl i anelu'n uchel a'r ffordd y mae'n addasu ei ddull o ddysgu i siwtio dysgwyr unigol. 

Er mwyn gwella'i wybodaeth a’i sgiliau, gwnaeth Brentisiaeth mewn Dysgu a Datblygu ac ennill Tystysgrif CII Lefel 3 mewn Yswiriant, gan symud ymlaen i Ddiploma Lefel 4 y Sefydliad Yswiriant Siartredig.