Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Gwynfor Harley Jones

Ofnai Gwynfor Jones ei fod wedi colli ei sgiliau cymdeithasol oherwydd pandemig Covid ond mae’n canmol ei brentisiaeth am ei helpu i gyflawni “yr amhosibl”. 

Mae’r bachgen 18 oed wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cadwraeth Amgylcheddol gyda Welcome to our Woods (WTOW), partneriaeth gymunedol yn rhan uchaf y Rhondda Fawr sy’n cysylltu trigolion â byd natur. Ar ôl dechrau gwirfoddoli gyda nhw pan oedd yn 13 oed, cymerodd y mudiad y bachgen o Dreherbert o dan eu hadain ar ôl iddo gwblhau ei arholiadau TGAU ac nid yw wedi edrych yn ôl ers hynny. 

“Ro’n i’n ofni fy mod i wedi colli fy sgiliau cymdeithasol ond, diolch i fy mhrentisiaeth, fe lwyddais i gyflawni ‘yr amhosib’ trwy wneud cyflwyniadau mewn ysgolion a digwyddiadau cymunedol ,” meddai Gwynfor, sydd hefyd yn gwirfoddoli ddwy noson yr wythnos mewn sesiynau chwarae awyr-agored gyda phlant lleol.