Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Heledd Roberts

Cafodd Heledd Roberts, sy'n Brentis Uwch, ei disgrifio fel “chwistrelliad o egni bywiol” ers iddi ymuno â thîm prysur Gwasanaethau Yswiriant FUW dair blynedd yn ôl. 

Ymunodd Heledd, 24, o Gaerfyrddin, â’r brocer yswiriant amaethyddol arbenigol yn ystod y pandemig pan fu'n helpu i wasanaethu nifer o swyddfeydd y busnes. 

Gan ei bod mor frwd dros ddysgu ac ysgogi eraill, cafodd ddyrchafiad i fod yn brif drafodwr cyfrifon yn y gogledd ac ar hyn o bryd mae’n llenwi tra bod swyddog cyfrifon o swyddfa Rhuthun ar gyfnod mamolaeth. 

Cwblhaodd Brentisiaeth Gwasanaethau Ariannol (Llwybr Yswiriant) o fewn blwyddyn ac erbyn hyn mae'n gweithio ar Brentisiaeth Uwch (Lefel 4) Yswiriant Cyffredinol, y ddwy'n cael eu darparu gan ALS Training. 

Mae Heledd wedi helpu i wneud y busnes yn fwy effeithlon a phroffidiol.