Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Jacob Marshall

Mae dyfodol disglair o flaen Jacob Marshall, prentis peirianneg fecanyddol, sydd wedi creu argraff ar ei gyflogwr a’i asesydd â'i sgiliau a safon ei waith. 

Mae Jacob, 20, o Bontypridd, yn gweithio i Combined Engineering Services (CES), cwmni peirianneg a dylunio ym Mryn-mawr, mewn partneriaeth ag Anelu’n Uchel - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a ffurfiwyd yn 2015 i lenwi bwlch ym maes sgiliau gweithgynhyrchu. 

Ac yntau'n gobeithio cwblhau ei brentisiaeth yn yr haf eleni, mae Jacob wedi gwneud cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg, mae'n gweithio tuag at HNC Lefel 4 mewn Peirianneg yng Ngholeg Penybont a hoffai symud ymlaen i HND. Mae Jacob, sy'n cael ei fentora gan wneuthurwr offer profiadol, wedi rhagori ar ddisgwyliadau’r, gan wneud gwaith o safon uchel, cwblhau prosiectau'n brydlon a helpu ei dîm i ragori ar ei darged perfformiad blynyddol.