Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Jessica Williams

Er i Jessica Williams ddioddef anafiadau a newidiodd ei bywyd mewn ffrwydrad nwy eithriadol a chwalodd ei chartref ym Mlaendulais yn 2020, mae wedi llwyddo i ddod yn arweinydd cyn-ysgol ysbrydoledig yn Sêr Bach y Cwm, Ystradgynlais. 

Dywedodd Jessica, sy'n fam i ddau, fod y profiad trawmatig wedi “newid fy mywyd” a dywed mai ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant, Arwain a Rheoli, a ddarparwyd gan ACT Training, a'i sbardunodd i ffynnu. 

 “Rydw i wedi mynd o fod yn ddifrifol wael ac yn brwydro am fy mywyd i fod yn arweinydd cyn-ysgol llwyddiannus. Mae’n anhygoel, ond dyw fy nhaith ddim wedi bod yn hawdd,” meddai Jessica, 34 oed. 

Yn ogystal â grymuso cydweithwyr a hybu gwaith tîm, mae Jessica wedi sicrhau tua £20,000 i wella cyfleusterau Sêr Bach y Cwm ar safle Ysgol Golwg y Cwm.