Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Katie Trembath

Mae Katie Trembath, sy'n Brentis Uwch, yn chwarae rhan allweddol yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyrraedd targedau heriol ym maes datgarboneiddio a newid hinsawdd.

A hithau'n swyddog lleihau carbon, mae Katie, 27, o Gwmclydach, yn helpu i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy mawr, yn cynnwys fferm solar chwe megawat a chynlluniau trydan dŵr, yn ogystal â gwahanol dasgau i leihau ôl troed carbon y cyngor. 

Mae sgiliau a gwybodaeth a enillodd yn ystod ei Phrentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau, gan ALS Training, a'i chymhwyster Prince2 yn allweddol i’w swydd. Mae'n ystyried gradd uwch. 

Mae hi wedi rhagori ar ddisgwyliadau trwy reoli prosiectau a chanfod atebion arloesol i heriau wrth i’r cyngor geisio dod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.