Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Kyle Read

Mae dyn ifanc 21 oed o Gaerdydd wedi synnu ei gyfoedion trwy barhau â'i addysg trwy gofleidio dysgu seiliedig ar waith, sy'n arwain at yrfa lewyrchus yn y gegin. 

Mae Kyle Read yn cyfaddef bod llawer o bethau'n tynnu ei sylw yn yr ysgol ond pan gafodd gynnig bod yn brentis mewn cegin, fe afaelodd yn dynn yn y cyfle. 

Ar ôl cwblhau ei Brentisiaeth Sylfaen mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio gyda Lifetime Training Ltd, partner i Gwmni Hyfforddiant Cambrian, cafodd Kyle ddyrchafiad i fod yn sous chef iau. 

Mae cydweithwyr Kyle yn credu bod ganddo’r holl gynhwysion ar gyfer gyrfa lwyddiannus a bod y bachgen ifanc swil wedi dod yn aelod hyderus o'r staff diolch i'r brentisiaeth.