Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Laura Chapman

Diolch i'w chariad at ddysgu, mae Laura Chapman, 21 oed, a fu'n ferch swil wedi datblygu i fod yn arweinydd tîm hyderus gyda MotoNovo Finance yng Nghaerdydd. 

Ymunodd Laura, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol Maesteg, â’r cwmni cyllid a benthyciadau ar gyfer ceir ar gytundeb cyfnod penodol o 18 mis pan oedd yn 17 oed ar ôl dewis ennill cyflog wrth ddysgu ar brentisiaeth. 

Symudodd ymlaen yn gyflym o Ddiploma BTEC Lefel 2 mewn Cymhwysedd Proffesiynol ar gyfer Gweithwyr TG Proffesiynol i Brentisiaeth ar gyfer Gweithiwr Proffesiynol ym maes Meddalwedd, y We a Thelathrebu, Tystysgrif ITIL Fersiwn 4 a nawr ILM Lefel 3 mewn Rheolaeth gydag ALS Training. 

Mae'r wybodaeth a'r sgiliau wedi rhoi hwb i'w hyder i arwain tîm o wyth,  datrys materion TG mwy o gwsmeriaid a chael effaith gadarnhaol ar y busnes.