Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Little Inspirations

Mae Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan annatod o lwyddiant a thwf Little Inspirations, darparwr gofal plant yn ne Cymru sydd wedi ennill sawl gwobr. Ers ei ffurfio 20 mlynedd yn ôl, mae’r cwmni o Bont-y-clun wedi tyfu o un safle i naw ac mae ganddo weithlu o 123 erbyn hyn. Mae'n darparu cyfleusterau gofal plant i dros 400 o deuluoedd bob dydd ledled Rhondda Cynon Taf, Bro Morgannwg, Casnewydd a Merthyr Tudful.

Mae gan y cwmni 20 prentis – bu ganddo 39 dros 17 mlynedd – ac mae cyfraddau cadw staff gryn dipyn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y diwydiant. 

Mae’r darparwr hyfforddiant Educ8 Training yn cydweithio’n agos â Little Inspirations i gyflenwi prentisiaethau o Lefel 2 i 5 mewn Ymarfer Proffesiynol, Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant, Gwaith Chwarae, Rheolaeth, Gwasanaeth Cwsmeriaid, ac Arwain a Rheoli.