Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Needle Rock

Mae cyn-arolygydd iechyd planhigion gyda Llywodraeth y DU bellach yn tyfu ei phrentisiaid ei hunan ar ôl troi ei hobi o achub hen ddodrefn yn fusnes clustogwaith sydd wedi ennill gwobrau. 

Lansiwyd Needle Rock gan Dr Ali J. Wright yn Llanrhystud ger Aberystwyth yn 2013. Mae gan y busnes bedwar o weithwyr ac enillodd wobr Microfusnes y Flwyddyn 2023 gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Uchelgais Ali yw sefydlu Academi Hyfforddi Needle Rock i gyflenwi fframwaith newydd Prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer Sgiliau Clustogwaith Uwch.

Llwyddodd dau brentis cyntaf Needle Rock i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Cyflawni Gweithrediadau Gweithgynhyrchu ac maent wedi dechrau Prentisiaeth Lefel 2 arall mewn Technegau Gwella Busnes gyda Hyfforddiant Myrick. Jason Vale oedd Prentis Sylfaen y Flwyddyn yng Ngwobrau Academi Sgiliau Cymru 2023.