Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

phs Group

Dywed phs Group, darparwr gwasanaethau hylendid, fod prentisiaethau wedi helpu’r cwmni i ennyn diddordeb gweithwyr a'u cadw, gwella cynhyrchiant a gwasanaethau cwsmeriaid, a chynyddu gwerthiant. 

Mae'r cwmni o Gaerffili'n cyflogi dros 3,000 o weithwyr ledled y wlad, gyda 130 ohonynt yn brentisiaid. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae phs wedi cyflogi 256 o brentisiaid, a 47 ohonynt wedi cael dyrchafiad neu wedi symud i swydd newydd. Nod phs yw sicrhau bod o leiaf 5% o'i weithlu ar raglenni prentisiaethau sy'n helpu i ddatblygu'r llwybrau gyrfa, o'r rhai sydd newydd ymuno â'r cwmni i'r uwch-reolwyr. 

Darperir prentisiaethau Lefel 3 i 7, o Weinyddu Busnes a Gwasanaethau Cwsmeriaid i Reolaeth a Gwyddor Data, gan ALS Training, ynghyd ag ACT a Choleg y Cymoedd. Enillodd phs Wobr Partneriaeth Cyflogwyr gan Goleg Penybont yn 2023.