Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Specsavers Porthcawl

Mae Prentisiaethau wedi helpu Specsavers Porthcawl i recriwtio, datblygu a chadw staff o safon uchel sy’n lles i'r busnes. Mae gan y siop, sydd â thri phrentis ac sydd wedi cyflogi wyth ers iddi agor, achrediad ‘Cyflogwr Platinwm’ Specsavers ym maes rheoli pobl. 

Mae'r rhan fwyaf o brentisiaid a gyflogir naill ai wedi aros a datblygu eu gyrfaoedd gyda'r siop neu wedi symud i weithio mewn ysbytai lleol. 

Mae Inspiro Learning, mewn partneriaeth â Chwmni Hyfforddiant Cambrian, yn cyflenwi Prentisiaethau mewn Sgiliau Manwerthu ac yn cydweithio’n agos â Specsavers Porthcawl i recriwtio yn y gymuned leol. 

Wrth ganolbwyntio ar ddatblygiad staff gall y siop ddarparu gwell gwasanaethau optometreg ac awdioleg clinigol a gall cleifion dderbyn gofal yn nes at eu cartrefi.