Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Tiddlywinks Day Nursery

Mae Prentisiaethau wedi helpu Tiddlywinks Day Nursery, darparwr gofal plant arobryn, i recriwtio a chadw staff o safon uchel a thyfu’r busnes i dri safle yn y pum mlynedd ddiwethaf. 

Mae gan y cwmni safleoedd ym Margam a Chwmafan a phum prentis yn ei weithlu o 22. Mae TSW Training yn cyflenwi Prentisiaeth Uwch (Lefel 5) mewn Gwaith Chwarae yn y feithrinfa. 

Yn ôl perchennog y busnes, Vicky Williams, mae prentisiaethau'n rhan annatod o ddatblygiad ei staff ac mae pob un ohonynt naill ai wedi ennill neu’n gweithio tuag at gymwysterau sy’n berthnasol i’w rôl – o Brentisiaeth Sylfaen hyd at Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) a lefel gradd. 

Enillodd Tiddlywinks bum Gwobr Gofal Plant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn 2022.