Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Trafnidiaeth Cymru

Sicrhau bod Cymru'n dal i symud trwy rwydwaith trenau cynaliadwy fu’r sbardun y tu ôl i raglen brentisiaethau arloesol a grëwyd gan Trafnidiaeth Cymru (TrC). 

Mae’r cwmni nid-er-elw wedi cofleidio dysgu seiliedig ar waith trwy recriwtio cannoedd o brentisiaid i wella perfformiad a chynaliadwyedd hirdymor. 

Croesawyd eu carfan gyntaf yn 2019, ac erbyn 2021 roedd y cwmni wedi cyflwyno rhaglen gyntaf y DU ar gyfer gyrwyr trenau dan hyfforddiant. Cafodd ei chynllunio mewn cydweithrediad â’r corff dyfarnu, EAL, ac mewn partneriaeth â Choleg y Cymoedd. 

Mae’r rhaglen, a gyflenwir gydag ALS, wedi cyflogi 189 o brentisiaid o gefndiroedd amrywiol ar draws 12 maes yn y busnes.