Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

TRJ Ltd

Mae trydedd genhedlaeth y teulu yn rhedeg busnes adeiladu llwyddiannus TRJ Ltd yn Rhydaman a sefydlwyd gan y cyn-brentis T. Richard Jones yn 1935. Rhyw 89 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cwmni’n dal i gyflogi prentisiaid, gan sicrhau llif cyson o dalent adeiladu yn y de-orllewin. 

Yn ogystal â chyflogi 160 o bobl, yn cynnwys 16 o brentisiaid, mae TRJ Ltd yn darparu gwaith i tua 100 o isgontractwyr lleol. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r cwmni wedi cyflogi 43 o brentisiaid ac mae'n cefnogi rhaglenni arobryn rhannu prentisiaethau a phrentisiaethau traddodiadol trwy Sgiliau Adeiladu Cyfle a Choleg Sir Gâr. 

Mae prentisiaethau adeiladu o Lefel Sylfaen i Lefel Uwch yn cael eu darparu gan Goleg Sir Gâr, Coleg Castell-nedd Port Talbot a Choleg Penybont. Erbyn hyn, mae naw o'r cyn-brentisiaid mewn swyddi rheoli neu oruchwylio.