Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Ysgol Maes y Felin

Mae prentisiaethau wedi gwneud cyfraniad mawr i Ysgol Maes y Felin gan ei helpu i gyflawni ei hymrwymiad i ddarparu amgylchedd cefnogol a gofalgar sy’n ennyn cariad gydol-oes at ddysgu. 

Mae gan yr ysgol gynradd yn Nhreffynnon bum prentis ar hyn o bryd ond mae wedi cyflogi 27 dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae prentisiaethau o Lefelau 2 i 5 mewn Gwasanaethau Addysgu a Dysgu Arbenigol, Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol, ac ILM Arwain a Rheoli yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag Achieve More Training. 

Dywed y pennaeth dros dro, David Thomas, fod y bartneriaeth yn gweithio’n dda ac yn cyflawni cenhadaeth yr ysgol i feithrin talent, ehangu gorwelion ac annog hunan-gred. 

Trwy feithrin, mentora a buddsoddi yn nhwf prentisiaid, mae’r ysgol yn meithrin gweithlu ffyddlon a medrus sy’n darparu addysg dda i ddisgyblion.