Neidio i'r prif gynnwy

Mae tîm y Bil Asedau Cymunedol: Hawl i Brynu yn Llywodraeth Cymru wrthi'n holi pobl am eu barn am Fil Hawl y Gymuned i Brynu a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Nod y gwaith hwn yw ein helpu i ddatblygu'r Bil, cyn i ni ddechrau holi pobl am y fersiwn derfynol.

Fel rhan o'r gwaith hwn, bydd tîm y Bil Asedau Cymunedol: Hawl i Brynu yn casglu gwybodaeth drwy arolwg, ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Llywodraeth Cymru yw rheolydd data'r gwaith ymchwil. Bydd tîm y Bil Asedau Cymunedol: Hawl i Brynu yn dileu data personol cyn ysgrifennu'r adroddiad. Ni fydd yn rhoi'ch data i bobl eraill yn Llywodraeth Cymru os bydd modd eich adnabod trwyddo oni bai'ch bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Bydd yr wybodaeth a gaiff ei chasglu yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad terfynol ar wefan Llywodraeth Cymru.

Chi sydd i benderfynu a ydych chi am gymryd rhan yn yr ymchwil hwn. Ond mae eich barn a’ch profiadau chi’n bwysig i ni er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i greu polisïau.

Y cyswllt ar gyfer yr ymarfer ymgysylltu hwn yw Claire Rush.

Cyfeiriad e-bost: Claire.Rush@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000254208

Hysbysiad Preifatrwydd

Pa ddata personol ydyn ni'n ei gadw ac o ble ydyn ni'n cael yr wybodaeth honno?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellid ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Nid yw'r ymchwil hwn yn gofyn ichi ddarparu data personol. 

Fe'ch gwahoddwyd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn gan y grŵp Plant yng Nghymru, sydd wedi anfon yr arolwg at eu sefydliadau partner ar ran Llywodraeth Cymru. 

Bydd yr arolwg yn gofyn am eich barn chi ar rai o'r cynigion ar gyfer y Bil Hawl y Gymuned i Brynu newydd. 

Chi sydd i benderfynu a ydych chi am gymryd rhan a does dim rhaid i chi gymryd rhan os nad ydych chi am wneud hynny.

Os byddwch yn dewis rhoi data personol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau na fydd modd eich adnabod chi o'r ymatebion y byddwch yn eu rhoi, na chysylltu'r ymatebion hynny â chi. 

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn ac yn rhoi data personol er mwyn cael ymateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon eich cais, ac wedyn bydd yn ei ddileu o ddata’r ymchwil.

Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. 

Chi sydd i benderfynu a ydych chi am gymryd rhan. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth ynghylch ei gallu i gyflawni ei blaenoriaethau. Gallai’r wybodaeth a gesglir yn ystod y gwaith ymchwil hwn gael ei defnyddio, er enghraifft, i wneud y canlynol:

  • Ein helpu i ddatblygu deddfwriaeth newydd

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi cael ei chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond y tîm ymchwil sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect sydd â mynediad ati. Bydd unrhyw ddata yn cael ei gadw yn y ffolder gyfyngedig hon. 

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o’r enw Smart Survey. Rydyn ni wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion o dor-diogelwch data a amheuir. Os amheuir achos o dor-diogelwch data, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith. 

Bydd y tîm yn bwydo'r wybodaeth a gesglir i'r adroddiad terfynol ar yr ymgynghoriad, a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwnnw'n cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 

Am faint y byddwn ni'n cadw eich data personol? 

Bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan y tîm o fewn chwe mis i'r gwaith ddod i ben. 

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei rhoi fel rhan o'r prosiect hwn. Yn benodol, mae gennych hawl i wneud y canlynol:

  • Gweld copi o'ch data eich hun; 
  • Gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hwnnw;
  • Gwrthwynebu'r prosesu, neu gyfyngu arno (o dan amgylchiadau penodol);
  • Gofyn i'ch data gael ei 'ddileu’ (o dan amgylchiadau penodol); a
  • Chyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF. Rhif ffôn: 0303 123 1113. Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data a roddir fel rhan o'r astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â:

Enw: Benjamin Lewis

Cyfeiriad e-bost: Benjamin.Lewis006@llyw.cymru

Rhif ffôn: 03000 257438

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn: 

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru