Neidio i'r prif gynnwys

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r hysbysiad hwn yn nodi sut y bydd y Gwasanaeth Di-waith yn prosesu data personol yn ystod y gwaith o weinyddu a rheoli tir ac eiddo y mae Gweinidogion Cymru yn berchen arno ac yn ei reoli.

Beth yw Data Personol?

Yn ôl y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), diffinnir data personol fel gwybodaeth sydd gennym neu yr ydym yn debygol o feddu arni yn y dyfodol sy'n ymwneud ag unigolyn byw y gellir ei adnabod drwy'r wybodaeth honno.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth a ddarperir gennych.

Byddwn yn ei phrosesu ar sail ein tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a freiniwyd inni ac, os yw'n cynnwys data categori arbennig, er budd sylweddol y cyhoedd.

Cefnogaeth drwy'r Gwasanaeth Di-waith

Er mwyn inni allu eich cefnogi drwy'r Gwasanaeth Di-waith, mae angen ichi ddarparu amrywiaeth o wybodaeth bersonol i'n proseswyr:

  • Cyfle Cymru
  • Gofal

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych i'r mentoriaid cymheiriaid yn cael ei chadw'n gwbl gyfrinachol ac ni chaiff ei rhannu â thrydydd parti.

Byddant yn gweithio gyda chi i oresgyn eich rhwystrau a'ch helpu i ddychwelyd i hyfforddiant, addysg neu gyflogaeth.

Sut bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio?

Bydd yr wybodaeth a ofynnwn gennych yn cael ei gwerthuso er mwyn penderfynu a yw'r gweithrediad yn effeithiol wrth gyflawni ei ddiben ac yn effeithlon o ran y ffordd y mae'n sicrhau canlyniadau.

Bydd yr wybodaeth hefyd yn cael ei defnyddio gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) at ddibenion gweinyddu a rheoli'r prosiect.

Bydd yr wybodaeth yn ein helpu i:

  • eich cefnogi drwy'r Gwasanaeth Di-waith
  • mesur a gwerthuso perfformiad y gwasanaeth
  • cryfhau'r sail dystiolaeth ar gyfer cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau

Eich hawliau o dan Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

Lle bo'n berthnasol, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol sydd gennym amdanoch a chael mynediad atynt
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw anghywirdebau yn y data hynny
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i'ch data gael eu dileu (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gludadwyedd data (mewn rhai amgylchiadau)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Mae gennych yr hawl i dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â Rheolwr Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth mentora cymheiriaid di-waith drwy outofwork-peer@gov.wales. 

Storio a chadw eich gwybodaeth

Byddwn yn storio eich gwybodaeth yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, polisïau Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a Pholisi Cofnodion Llywodraeth Cymru.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â gofynion rheoli cofnodion Llywodraeth Cymru.

Mae arferion rheoli a chadw cofnodion y Gwasanaeth Di-waith yn cydymffurfio â'r canllawiau presennol.

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.   

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.   

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i’r cyfeiriad isod:  

Llywodraeth Cymru  
Parc Cathays  
Caerdydd  
CF10 3NQ 

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch ddilyn y canllawiau ar y dudalen Cwyn am Lywodraeth Cymru. 

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno. 

Rhagor o wybodaeth

Os hoffech ragor o wybodaeth am y data personol a gesglir a'u defnydd, os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cywirdeb data personol, neu os ydych yn dymuno arfer unrhyw un o'ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, dylech gysylltu â:

Rheolwr Rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewrop Llywodraeth Cymru

Gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Di-waith

E-bost: outofwork-peer@gov.wales 

Swyddog Diogelu Data

Gellir cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@gov.wales 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Gellir cysylltu â llinell gymorth Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar:

  • 0303 123 1113
  • 01625 545745

(9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener)

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data gan:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Gwefan: ico.org.uk