Leol Llywodraeth Cymru y gronfa trafnidiaeth leol, y gronfa ffyrdd cydnerth a’r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn: canllawiau i ymgeiswyr 2023 i 2024
Canllawiau i helpu awdurdodau lleol i ymgeisio am grantiau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Diben y Canllawiau yw cadarnhau’r blaenoriaethau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi drwy’r Grant Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd Cydnerth a’r Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn i awdurdodau lleol yn 2023 i 2024.
Maent hefyd yn nodi’r broses y dylai awdurdodau lleol ei dilyn er mwyn cyflwyno ceisiadau sy’n cyd-fynd â’r blaenoriaethau hynny a sut y bydd y ceisiadau hynny’n cael eu hasesu.
Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos eich bod wedi dilyn Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG).
Rhaid cyflwyno adroddiadau WelTAG gyda’ch ceisiadau.
Deilliannau
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus feddwl mwy am yr hirdymor, i weithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ceisio rhwystro problemau a defnyddio dull mwy cydlynol o weithio.
Mae Deddf 2015 yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i geisio cyflawni’r nodau ac amcanion llesiant ym mhob agwedd ar eu gwaith.
Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru yw ein strategaeth ar gyfer dyfodol trafnidiaeth yng Nghymru. Mae’n pennu ein huchelgeisiau ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf a’n blaenoriaethau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf. Mae hyn yn sail i’r amcanion grant.
Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos eich bod wedi datblygu eich cynnig gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio a bod eich cynnig yn cyfrannu gymaint â phosibl at uchelgeisiau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru sy’n cyd-fynd â’r nodau llesiant.
Yn eich ceisiadau mae'n rhaid ichi ddangos sut y bydd eich cynigion yn bodloni pwrpas/ amcanion hyn ar gyfer y grant.
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol
- cyflwyno gweledigaeth a blaenoriaethau Llwybr Newydd mewn ffordd sy’n dda i bobl a chymunedau, yn dda i’r amgylchedd, yn dda i’r economi a lleoedd, yn dda i’r diwylliant a’r iaith Gymraeg
- cyflwyno system drafnidiaeth hygyrch, effeithlon, gynaliadwy sy’n ddiogel, sy’n cael ei rheoli’n dda ac sy’n addasu i newid hinsawdd a’i liniaru
- cyflawni’r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd:
- gwasanaethu pobl er mwyn lleihau’r angen i deithio
- galluogi pobl i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gyda gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy a seilwaith ac
- annog pobl i wneud y newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy
- cyfrannu at weithrediadau a nodwyd yn Llwybr Newydd, gan gynnwys y 9 cynllun bach
- cyflawni’r weledigaeth a’r camau gweithredu a amlinellir yn Bws Cymru: cysylltu pobl â lleoedd.
Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth
Addasu i’r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys delio â’r problemau y mae tywydd difrifol wedi’i achosi i’r rhwydwaith trafnidiaeth, yn enwedig i’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
Y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn
Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd yn eu hardaloedd, yn unol â’r amcanion yn Strategaeth gwefru cerbydau trydan ar gyfer Cymru a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.
Cymhwystra i gael Cyllid Cyfalaffor
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth
Gwahoddir awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau sy’n bodoli. Mae cynllun ‘yn bodoli eisoes’ os derbyniodd grant yn 2021 i 2022 neu 2022 i 2023 o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol neu’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Rhoddir blaenoriaeth i gynlluniau sydd wedi’u datblygu’n dda ac sydd naill ai’n cael eu hadeiladu neu ar fin dechrau’r gwaith adeiladu.
Cynlluniau Ffyrdd
Caiff awdurdodau lleol wneud cais i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth ar gyfer cynlluniau a gafodd eu hatal ar gyfer yr Adolygiad o’r Ffyrdd. Bydd penderfyniadau ynghylch cyllid yn ddarostyngedig i ganlyniadau’r Adolygiad o’r Ffyrdd, a ddisgwylir yn gynnar yn 2023.
Dyraniad Craidd Bysiau Rhanbarthol
Caiff awdurdodau lleol wneud cais i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol am gynlluniau blaenoriaeth bysiau rhanbarthol newydd, sydd wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio’r Dyraniad Craidd Bysiau Rhanbarthol.
Rydym yn bwriadu parhau â’r Dyraniad Craidd Bysiau Rhanbarthol i ddatblygu cynlluniau er mwyn gwella amseroedd teithiau bysiau. Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn.
Dylai pob cais ar gyfer cynlluniau teithio gweithredol newydd a phresennol gael eu cyflwyno i’r Gronfa Trafnidiaeth Leol.
Y Cynllun Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn
Gwahoddir awurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau ar gyfer y canlynol
Darparu mannau gwefru mewn cyrchfannau
Fel arfer mae gwefru mewn cyrchfannau’n cael ei gynnal mewn lleoliadau y byddai’r defnyddiwr yn ymweld â nhw beth bynnag: canolfannau manwerthu, groseriaid, campfeydd ac ati. Mae’r defnyddiwr yn gwefru ei gerbyd ym maes parcio’r cyrchfan wrth ymweld. Mewn lleoliadau lle mae’r defnyddiwr yn aros yn hwy, e.e. dros nos mewn gwesty, gellir defnyddio gwefru araf. Mae’r rhan fwyaf o’r mannau gwefru mewn cyrchfannau’n gyflym, a gall rhai fod yn gyflym iawn e.e. pan fydd y defnyddiwr yn aros am gyfnod byrrach. Mae PodPoint wedi rhagamcanu y bydd 7% o’r holl wefru’n cael ei gynnal mewn cyrchfannau, mewn marchnad cerbydau trydan wedi’i llawn ddatblygu. Mae gwefru cyflym a chyflym iawn ar gyfer y cyhoedd – sy’n cynnwys hybiau, mannau gwefru ar y ffyrdd a rhai mannau mewn cyrchfannau – yn cyfrif am 45% o’r galw am ynni mewn mannau gwefru cyhoeddus, fel mae wedi cael ei fodelu gan BloombergNEF.
Darparu cyfleusterau gwefru mewn hybiau
Mae hybiau’n safleoedd neilltuedig, sydd yn aml yn gwasanaethu mathau gwahanol o gerbyd, ac weithiau mae cyfleusterau manwerthu neu ddiwydiannol ar y safle. Yn aml mae’r gwefru mewn hybiau’n gyflym neu’n gyflym iawn, gyda defnyddwyr yn aros am gyfnodau byr. Weithiau mae hybiau’n cael eu defnyddio gan yrwyr i wefru eu cerbyd yng nghanol eu taith. Maent yn wahanol i fannau gwefru ar y stryd ac mewn cyrchfannau o ran eu lleoliad a’r ffaith mai gwefru yw eu prif bwrpas. Gall hybiau fod mewn ardaloedd anghysbell neu drefol, ond mae cyfyngiadau ar y grid (sy’n cyfyngu ar faint y cysylltiad) a’r tir sydd ar gael yn gallu peri heriau, yn enwedig yr olaf. Mae gan lawer o hybiau gyfleusterau gwefru wedi’u neilltuo i wahanol fathau o ddefnyddiwr e.e. tacsis, cerbydau fflyd, ceir preifat. Gall fod yn heriol gwasanaethu mathau gwahanol o gerbyd mewn un hyb os yw eu hanghenion gwefru yn unigryw.
Darparu mannau gwefru ar y stryd
Fel arfer mae mannau gwefru ar y stryd ymhlith y cyfleusterau gwefru cyhoeddus arafaf, gyda cherbydau’n aml yn cael eu gwefru dros nos. Yn aml mae mannau gwefru araf a chyflym yn cael eu hymgorffori mewn pyst goleuadau stryd neu’n cael eu gosod ar hyd y cwrb. Mae tariffau’n amrywio’n sylweddol, hyd yn oed o fewn un rhwydwaith. Gall cyfraddau is fod ar gael i breswylwyr wefru eu cerbydau yn eu hardal leol, ar gyfer ardaloedd nad ydynt yn drefol a / neu ar gyfer aelodau o’r rhwydwaith. Mae modelu gan BloombergNEF yn dangos bod y rhan fwyaf o’r gwefru gan y cyhoedd yn cael ei wneud ar gyfleusterau araf.
Application
Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero ar gyfer y Cynllun Mannau Gwefru ar Strydoedd Preswyl (ORCS). Diben y cynllun yw cynyddu nifer y mannau gwefru ar y stryd sydd ar gael ar strydoedd preswyl lle nad yw parcio oddi ar y stryd ar gael, ac o ganlyniad sicrhau nad yw gorfod parcio ar y stryd yn atal pobl rhag gwireddu manteision bod yn berchen ar gerbyd trydan.
Mae’r cynllun yn rhoi mynediad i awdurdodau lleol at gyllid grant y gellir ei ddefnyddio i ariannu’n rhannol y gwaith o osod seilwaith mannau gwefru cerbydau trydan ar y strydoedd, at ddibenion preswylwyr, yn unol â’r fanyleb dechnegol ofynnol. Rydym yn annog awdurdodau lleol i wneud cais a manteisio ar y cyllid hwn, tra bydd ar gael, i helpu i gefnogi ac i baratoi ar gyfer y newid i gerbydau dim allyriadau. Wrth i’r galw am seilwaith gwefru ar y stryd gynyddu, rydym yn disgwyl i’r sector preifat fuddsoddi mwy er mwyn adeiladu a gweithredu rhwydwaith hunan-gynaliadwy sy’n ffynnu. Mae’n hanfodol bod awdurdodau lleol yn hwyluso rhoi modelau masnachol ar waith, i sicrhau bod rhwydweithiau’n gallu ehangu a gwella, er mwyn diwallu anghenion preswylwyr. Anogir awdurdodau lleol i archwilio pob opsiwn masnachol sydd ar gael iddynt pan fyddant yn cynllunio seilwaith gwefru cerbydau trydan.
Bydd ceisiadau wedi’u cyflwyno rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023 yn gymwys ar gyfer cyllid Mannau Gwefru ar Strydoedd Preswyl o 60%, a bydd disgwyl iddynt ddarparu arian cyfatebol preifat o 40%. Mewn amgylchiadau eithriadol lle na ellir darparu rhan neu’r cyfan o’r 40% o arian cyfatebol gan y sector preifat, bydd Llywodraeth Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid cerbydau allyriadau isel iawn fel arian cyfatebol. Bydd angen i’r cais ddarparu tystiolaeth gref o ymdrechion a gweithgareddau’r awdurdod lleol i sicrhau cyllid preifat, a manylion eich trefniadau gweithredu gyda’r Gweithredwr Mannau Gwefru. Mae Llywodraeth Cymru a’r Swyddfa Cerbydau Allyriadau Sero am sicrhau bod cwmnïau preifat yn cyfrannu at y gwaith o osod mannau gwefru.
Wrth gyflwyno ceisiadau, rydym yn annog awdurdodau lleol yn gryf i nodi faint o gyllid (cyfalaf a refeniw) a fyddai ei angen arnynt ar gyfer y ddwy flynedd ddilynol h.y. blynyddoedd ariannol 2024 i 2025 a 2025 i 2026.
Wrth weithio gyda rhanddeiliaid sector preifat, os yw awdurdodau lleol yn nodi rhwystrau rhag sicrhau cyllid masnachol, rydym yn eu gwahodd i siarad â Llywodraeth Cymru, gan fod gennym opsiynau ar gyfer darparu cyllid masnachol i sefydliadu sector cyhoeddus.
Rhaid i bob cynllun gydymffurfio â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a’i Chanllawiau ategol. Rhaid i gynlluniau sy’n cynnwys gwella priffyrdd, gwaith adeiladu, neu reoli traffig ddangos sut y maent yn cydymffurfio yn fwyaf arbennig ag Adran 9 o’r Ddeddf (Darparu ar gyfer cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol).
Wrth greu cynlluniau, mae'n rhaid i awdurdodau lleol ystyried hefyd eu cyfrifoldebau o dan Adran 6 - Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth i'r graddau sy'n gyson â chyflawni eu swyddogaethau mewn modd priodol, ac wrth wneud hynny, hyrwyddo cadernid ecosystemau. Mae hyn er enghraifft yn hynod berthnasol i gynlluniau trin ymylon ffyrdd a phlannu fel rhan o brosiectau trafnidiaeth. Gallwch ddod o hyd i’r Arweiniad ar y Ddyletswydd yma: Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau: canllawiau adrodd.
Rydym yn annog awdurdodau lleol i gydweithio a chyflwyno ceisiadau rhanbarthol. Rhaid nodi’r awdurdod lleol sy’n arwain pob cynllun. Byddai’r cyllid yn cael ei ddyrannu i’r awdurdod lleol sy’n arwain.
Dylai awdurdodau lleol ymgynghori â’r cymunedau a’r rhanddeiliaid y mae’r cynllun yn effeithio arnynt gan gynnwys ymgysylltu â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus a gweithio gyda nhw lle y bo hynny'n berthnasol. Dylent adrodd ar y cynnydd yn dilyn yr adborth a gafwyd, neu, os mai newydd ddechrau mae'r cynllun, sut y byddant yn gwneud hynny, o fewn eu cais.
Bydd cyllid yn cael ei ddyrannu hyd at y swm a ddyfernir ar gyfer y gwariant cymwys gwirioneddol ar gynllun sy’n cael ei dderbyn. Ni roddir mwy o gyllid na’r swm a ddyfernir a bydd gofyn i’r awdurdod lleol ysgwyddo’r risg sy’n gysylltiedig ag unrhyw orwario posibl. Os bydd y costau’n uwch oherwydd amgylchiadau eithriadol a fydd y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod lleol, mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi cyllid ychwanegol.
Bydd disgwyl i awdurdodau lleol gyflawni’r cynlluniau a gaiff eu derbyn yn unol â’r ceisiadau a gyflwynwyd ganddynt. Bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno adroddiadau ar gynnydd o bryd i’w gilydd drwy gydol blwyddyn ariannol 2022 i 2023 a bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys yn y llythyr dyfarnu.
Gall swyddogion perthnasol Llywodraeth Cymru, neu gynrychiolwyr a enwebir ganddynt, ofyn am gyfarfodydd neu am ymweliadau safle i drafod cynnydd cynllun, fel y bernir yn briodol. Gall methu â dangos cynnydd priodol arwain at dynnu cynigion cyllid yn ôl ac at adennill oddi wrth yr awdurdodau lleol y cyllid a fydd wedi’i hawlio hyd at yr adeg honno.
Bydd cynlluniau sy’n cynnwys arian cyfatebol yn denu sgorau ychwanegol yn y broses arfarnu, a bydd cynlluniau sy’n dangos lefelau uwch o arian cyfatebol yn sgorio’n uwch.
Rhaid i geisiadau nodi’n glir lefelau a ffynonellau’r arian cyfatebol a fydd ar gael a chadarnhau y bydd ar gael i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024. Caiff arian cyfatebol ddod o ffynonellau mewnol neu allanol a gall gynnwys amser swyddog.
Telerau ac amodau'r grant
Ar wahân i amgylchiadau eithriadol drwy gytundeb ymlaen llaw, dylai'r cynlluniau sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer cyllid gwaith yn 2023 i 2024 ddangos y bydd pob problem sy'n gysylltiedig â thir yn cael eu datrys a bod gorchmynion neu'r caniatâd gofynnol wedi'u trefnu fel y gall y gwaith fynd yn ei flaen.
Er bod Llywodraeth Cymru yn barod i ariannu costau prynu tir, ni chaiff y cyllid ei ddarparu ar gyfer hawliadau iawndal sy'n codi o brynu'r tir neu o'r prosiect ei hun.
Mae darparu cymorth cyfalaf i gynlluniau yn amodol ar ymrwymiad awdurdodau lleol i dalu costau refeniw a chynnal a chadw yn y dyfodol.
Monitro a gwerthuso
Rhaid i’r holl gynlluniau gael eu monitro a’u gwerthuso. Gall awdurdodau lleol gynnwys costau monitro am hyd at dair blynedd yn eu ceisiadau am gyllid, ond rhaid nodi’r rhain yn glir.
Rhaid monitro cynlluniau am dair blynedd ar ôl iddynt gael eu cwblhau a rhaid cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Bydd rhagor o ganllawiau’n cael eu darparu ar brosesau adrodd.
Hyrwyddo
Dylai ceisiadau gynnwys costau sy'n gysylltiedig â hyrwyddo cynlluniau, gan gynnwys arwyddion, deunyddiau a digwyddiadau, am hyd at dair blynedd wedi i'r cynllun ddod i ben. Mae'n rhaid nodi'r rhain yn glir.
Dogfennau’r Broses Ymgeisio
Dylai awdurdodau lleol gyflwyno’u ceisiadau gan ddefnyddio’r ffurflenni cais perthnasol. Bydd pob cynllun yn cael ei asesu drwy broses arfarnu.
Awdurdodau lleol fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gwaith cyflawni’n cadw at yr amserlen ac am roi gwybod am unrhyw newid i’r rhaglen waith a/neu’r proffil gwariant.
Wrth gyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau cyfalaf, rhaid cynnwys cynllun sy’n dangos cynifer o fanylion ag y bo modd am y cynllun hwnnw a hefyd fap sy’n dangos cynnwys y cynllun. Rhaid hefyd gynnwys cyfeirnod grid AO Prydain.
Bydd y dogfennau ategol a ganlyn yn cael eu hystyried:
- mapiau a chynlluniau yng nghyswllt ceisiadau cyfalaf (rhaid i’r mapiau a’r cynlluniau hyn ddangos y camau arfaethedig yn glir)
- o ran gwybodaeth ategol arall y teimlwch ei bod yn hanfodol i’r cais, rhaid cyflwyno cyn lleied ohoni ag y bo modd a dylai fod yn ddienw, lle y bo hynny’n berthnasol.
Y Broses Arfarnu
Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried gan banel o swyddogion Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol perthnasol fel y bo’n briodol.
Bydd y penderfyniadau terfynol ynglŷn â chyllid yn cael eu gwneud gan y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.
Mae’r meini prawf asesu ar gyfer y grantiau i’w gweld mewn dogfen wahanol – gweler y Meini Prawf Asesu ar gyfer y Grant 2023 i 2024.
Bydd yr argymhellion terfynol ar gyfer cyllid hefyd yn ystyried i ba raddau mae’r awdurdod lleol wedi cyflawni yn erbyn ei ragolygon yn y flynyddoedd diwethaf.
Cyflwyniadau
Mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 7 Chwefror 2023
Mae'n rhaid cyflwyno copi electronig o bob cais i'r cyswllt perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru sydd wedi'u rhestru isod drwy transportplanning@llyw.cymru
Ni dderbynnir gwybodaeth ychwanegol neu ddiwygiedig ar ôl y dyddiad hwnnw oni bai ei bod yn wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru wedi gofyn amdani.
Manylion cyswllt Llywodraeth Cymru: cyllid grant ac awdurdodau lleol
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth
Gogledd Cymru: Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam.
Cyswllt: Pennaeth strategaeth drafnidiaeth a chynllunio
Ebost: cynlluniotrafnidaeth@llyw.cymru
Ffôn: 03000 625168
Local Transport Fund and Resilient Roads Fund
De-orllewin Cymru: Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Abertawe.
Canolbarth Cymru: Ceredigion, Powys
Cyswllt: Pennaeth Polisi
Ebost: cynlluniotrafnidaeth@llyw.cymru
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth
De-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen, Bro Morgannwg.
Cyswllt: Pennaeth cynllunio ac arfarnu trafnidiaeth
Ebost: cynlluniotrafnidaeth@llyw.cymru
Ffôn: 03000 625278
Y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel Iawn
Cymru gyfan.
Cyswllt: Pennaeth datgarboneiddio trafnidiaeth
Ebost: cynlluniotrafnidaeth@llyw.cymru
Ffôn: 03000 259226.