Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad ystadegol

Disgrifiad data

Mae data yn cael ei gyhoeddi sy'n dangos llwybrau cleifion sydd wedi cau - naill ai gan fod claf wedi dechrau ei driniaeth ddiffiniol gyntaf neu gan ei fod wedi cael gwybod nad oedd ganddo ganser - ac ar gyfer cyfran y llwybrau lle dechreuodd triniaeth o fewn 62 diwrnod i'r amser lle'r amheuwyd canser am y tro cyntaf, sef targed perfformiad Llywodraeth Cymru.

Hyd at fis Ionawr 2021, adroddwyd ar ystadegau gwasanaethau canser ar dair sail: y Llwybr Sengl Lle'r Amheuir Canser, y Llwybr Brys Lle'r Amheuir Canser a'r Llwybr Llai Brys Lle'r Amheuir Canser.

Daeth targedau ar gyfer y llwybrau brys a llai brys i ben ym mis Rhagfyr 2020 (cyhoeddiad Chwefror 2021) ac nid oes unrhyw ddata newydd wedi'i gasglu na'i gyhoeddi ers hynny. Mae data hanesyddol yn dal i fod ar gael ar wefan StatsCymru.

O fis Chwefror 2021, dim ond ar gyfer y Llwybr Lle'r Amheuir Canser (SCP) y caiff data ei gyhoeddi, gyda dau fis o oedi.

Mae'r SCP yn dechrau ar y pwynt lle'r amheuir canser (er enghraifft, pan fydd meddyg teulu yn gwneud atgyfeiriad) a dyma pryd mae amseroedd aros a gofnodir yn dechrau. Mae’r llwybr yn cau, ac amseroedd aros yn dod i ben, pan fydd cleifion yn dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf neu'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser (israddio). Mae llwybrau lle mae cleifion yn marw neu'n dewis peidio â chael triniaeth yn cau hefyd, ond nid ydynt wedi'u cynnwys yn y data llwybrau wedi'u cau. Y rheswm am hyn yw mai cipio 'gweithgarwch' y GIG yw bwriad yr ystadegau.

Cyhoeddir data ar StatsCymru gyda dadansoddiadau ar gyfer grŵp oedran, rhyw a safle'r tiwmor.

Cysyniadau a diffiniadau ystadegol

Mae’r ystadegau ar gyfer llwybrau lle'r amheuir canser yn cwmpasu tri phrif fesur:

  • nifer y llwybrau cleifion sy'n cael gwybod nad oes ganddynt ganser
  • nifer y llwybrau cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf
  • nifer a chanran y llwybrau cleifion a ddechreuodd eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn yr amser targed o 62 diwrnod

Cyhoeddir data hefyd ar gyfer nifer y llwybrau cleifion sy'n cael eu hagor ar y llwybr lle'r amheuir canser. Mae pob llwybr claf newydd yn cael ei gynnwys ym mesurau llwybrau agored, waeth beth yw ffynhonnell yr amheuaeth. Mae hyn yn cynnwys llwybrau cleifion a atgyfeiriwyd i ofal eilaidd yng Nghymru ond a allai dderbyn triniaeth y tu allan i GIG Cymru (naill ai mewn gwlad wahanol neu mewn ysbytai preifat), ond nid yw'n cynnwys llwybrau cleifion lle mae'r canser cychwynnol gwreiddiol yn dychwelyd.

Nid yw'r data a ddefnyddir i gael y mesur targed o 62 diwrnod yn cynnwys rhai achosion, a elwir yn ohiriadau. Gall claf gael ei ohirio o'r rhestr aros am resymau meddygol, er enghraifft, oherwydd nad yw'n ffit i gael triniaeth, neu am resymau cymdeithasol megis os yw'n mynd dramor am gyfnod.

Uned ystadegol

Mae data ar lwybrau lle'r amheuir canser yn adlewyrchu llwybrau cleifion yn hytrach na chleifion unigryw. Y rheswm am hyn yw y gall claf unigol fod â nifer o lwybrau canser ar agor os amheuir canser mewn mwy nag un safle tiwmor.

Mae data crai yn awgrymu bod nifer y llwybrau sydd ar agor tua 2-3% yn uwch na'r nifer gyfatebol o gleifion unigol yr amheuir bod ganddynt ganser.

Poblogaeth ystadegol

Mae'r data'n cwmpasu'r holl wasanaethau canser a gofnodir yng Nghymru, gyda gwybodaeth yn cael ei chasglu gan fyrddau iechyd lleol. Nid yw Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn darparu gwasanaethau canser acíwt, ond mae'n darparu gwybodaeth am gleifion sydd wedi mynd i mewn i'r llwybr oherwydd yr amheuaeth o ganser. Pan fydd cleifion yn dechrau triniaeth, maent yn cael eu cynnwys yn ystadegau’r bwrdd iechyd y cânt eu hatgyfeirio iddo.

Mae data ar lwybrau lle'r amheuir canser yn cynnwys rhai cleifion a atgyfeiriwyd i ofal eilaidd yng Nghymru ond sy'n derbyn triniaeth y tu allan i GIG Cymru (naill ai mewn gwlad wahanol neu mewn ysbytai preifat - gan gynnwys y rhai a ddechreuodd eu llwybr yn breifat ac a drosglwyddwyd yn ddiweddarach i ofal y GIG).

Cwmpas amser

Mae data yn cael ei gyhoeddi bob mis. Mae data cyhoeddedig ar gyfer llwybrau SCP wedi'u cau yn dechrau ym mis Mehefin 2019 ac mae'r data ar gyfer llwybrau agored yn dechrau ym mis Rhagfyr 2021.

Prosesu ystadegol

Data ffynhonnell

Cesglir y data ar lwybrau lle'r amheuir canser gan fyrddau iechyd lleol drwy'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), a gynhelir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW). Mae DHCW yn darparu data gweinyddol ar lefel cleifion, sy’n cael ei gyflwyno gan bob bwrdd iechyd, yn ei grynswth i Lywodraeth Cymru.

Mynychder casglu data

Darperir data cyfanredol i Lywodraeth Cymru rhwng pedwerydd a phumed diwrnod gwaith pob mis, gydag oedi o tua chwe wythnos o'r mis atgyfeirio. Er enghraifft, byddai data ar ddata mis Ionawr yn cael ei ddarparu ddechrau mis Mawrth.

Casglu data

Mae byrddau iechyd lleol yn casglu data gweinyddol byw ar wasanaethau canser cleifion yn lleol bob dydd. Mae data byrddau iechyd lleol yn cael ei gasglu gan DHCW drwy broses casglu data ganolog bob mis.

Mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd yn defnyddio system olrhain canser ar System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) sy'n cael ei diweddaru bob dydd. Mae eraill yn defnyddio systemau lleol i gasglu data gweinyddol ac yn darparu detholiadau o ddata i DHCW ar ddiwedd y mis, gan ddefnyddio SQL.

Ar ôl ei ddilysu, mae DHCW yn darparu data cyfanredol i Lywodraeth Cymru.

Dilysu data

Mae dilysu data yn digwydd ar sawl cam cyn cyhoeddi:

Mae Byrddau Iechyd Lleol yn ymgymryd â'u dilysiadau eu hunain, gan gynnwys yn y pwynt mynediad, a gwiriadau wythnosol neu fisol ar gyfer gwerthoedd coll, dyblyg neu ddata am allgleifion. Mae rhai gwahaniaethau yn y mathau o ddilysiadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol, yn bennaf oherwydd gwahaniaethau sylfaenol mewn systemau data gweinyddol.

Mae’r Byrddau Iechyd Lleol yn cyflwyno data ar lefel cleifion i DHCW ac mae DHCW yn ymgymryd â phrosesu dilysu pellach, hynny yw gwiriadau bod cofnodion data yn cyfateb i'r gwerthoedd a amlinellir yn yr Hysbysiad Newid Safon Data SCP (DSCN) (DHCW) diweddaraf a strwythur setiau data (Geiriadur Data GIG Cymru). Mae DHCW yn llunio dangosfwrdd (nad yw'n gyhoeddus) sy'n dangos dadansoddiadau cryno ar lefel Bwrdd Iechyd Lleol. Mae’r Byrddau Iechyd yn cymeradwyo eu data eu hunain yn seiliedig ar y dadansoddiadau cryno yn y dangosfwrdd.

Mae DHCW yn darparu data cyfanredol i Lywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn llunio dadansoddiadau yn y fformat sy'n ofynnol ar gyfer cyhoeddi ac yn cynnal rhai dilysiadau terfynol ar ffurf gwiriadau ar gyfer allgleifion, yn ogystal â gwirio rhifau cyfanredol a thueddiadau. Mae unrhyw anghysondebau a nodir yn cael eu cwestiynu gyda DHCW sy'n mynd ati wedyn i ymchwilio a gwirio gyda Byrddau Iechyd Lleol.

Casglu data

Mae DHCW yn llunio dadansoddiadau cyfanredol o'r data lefel cleifion a ddarperir gan y Byrddau Iechyd Lleol. Mae gwybodaeth am gleifion yn cael ei thynnu i sicrhau bod y data'n ddienw ac mae'r data cyfanredol yn cael ei ddilysu yn erbyn y data gwreiddiol. Darperir y data cyfanredol i Lywodraeth Cymru, ac mae’r llywodraeth yn cynhyrchu dadansoddiadau ar y ffurf benodol sy'n ofynnol ar gyfer cyhoeddi.

Addasiad

Fel arfer, nid oes angen addasiadau. Fodd bynnag, os na fydd Bwrdd Iechyd Lleol yn gallu darparu data ar gyfer mis penodol, gellid ystyried atebion megis rhoi gwerth cyfartalog neu gyflwyno data'r mis blaenorol er mwyn galluogi cyhoeddiad llawn. Byddai unrhyw gamau a gymerwyd yn cael eu nodi yn y datganiad ystadegol (Crynodeb perfformiad a gweithgaredd y GIG) a thablau StatsCymru.

Rheoli ansawdd

Sicrhau ansawdd

Yn Llywodraeth Cymru, mae sicrwydd ansawdd yn cael ei gyflwyno yn unol â'r strategaeth ansawdd ganlynol a cholofn Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau.

Asesu ansawdd

Roedd ystadegau gwasanaethau canser SCP wedi eu labelu fel rhai arbrofol rhwng mis Mehefin 2019 a mis Tachwedd 2022. Cyn hyn, casglwyd data canser ar sail llwybrau brys lle amheuir canser a llwybrau llai brys lle amheuir canser, ac fe'u dynodwyd fel Ystadegau Gwladol. Dynodwyd yr ystadegau canser sy'n seiliedig ar SCP fel rhai arbrofol gan fod y dull yn newydd ac yn amodol ar brofion a'r gallu i ddiwallu anghenion defnyddwyr.

Daeth adolygiad yn 2022 i'r casgliad bod y dulliau'n briodol a'r ystadegau'n gadarn ac yn ddibynadwy. Maent yn diwallu ystod o anghenion allweddol defnyddwyr ac mae defnyddwyr yn eu hystyried yn gredadwy, yn ddibynadwy ac yn hanfodol i'w gwaith. Barnwyd eu bod yn cydymffurfio ag egwyddorion allweddol y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau swyddogol, a chafodd y label arbrofol ei dynnu ym mis Tachwedd 2022. Ym mis Chwefror 2023, cytunodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) fod yr ystadegau'n bodloni'r safonau sy'n ofynnol i'w dynodi fel Ystadegau Gwladol.

Mae gwybodaeth am ddatblygu'r data llwybrau lle'r amheuir canser ar gael ar dudalennau geiriadur data DHCW.

Perthnasedd

Anghenion defnyddwyr

Mae dealltwriaeth o amseroedd aros presennol ar gyfer gwasanaethau canser, a thueddiadau hanesyddol, yn hanfodol i'r rhai sy'n ymwneud â chynllunio a gwneud penderfyniadau ar lefelau cenedlaethol a lleol. Defnyddwyr allweddol yr ystadegau hyn yw:

  • gweinidogion a'u cynghorwyr
  • aelodau o’r Senedd
  • gwasanaeth ymchwil yr aelodau yn y Senedd
  • swyddogion o fewn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
  • GIG Cymru
  • Byrddau Iechyd Lleol
  • ysbytai sy'n darparu gwasanaethau canser
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau eraill y llywodraeth
  • y cyfryngau
  • defnyddwyr sy'n ddinasyddion

Bydd yr ystadegau'n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys:

  • cyngor i Weinidogion
  • asesu, rheoli a monitro perfformiad GIG Cymru yn erbyn targedau/safonau
  • llywio prosiectau gwella gwasanaethau ar gyfer meysydd ffocws a chyfleoedd i wella ansawdd
  • fel ffynhonnell wybodaeth i lywio penderfyniadau atgyfeirio meddygon teulu ac i gynghori cleifion wrth eu hatgyfeirio i wasanaethau diagnostig neu therapi
  • cyfrannu at erthyglau newyddion ar amseroedd aros yng Nghymru
  • Gan Fyrddau Iechyd Lleol y GIG, i feincnodi perfformiad yn erbyn targedau cenedlaethol a Byrddau Iechyd Lleol eraill
  • deall y gwasanaeth mae'r cyhoedd yn ei dderbyn gan GIG Cymru

Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac nad ydych yn teimlo bod y rhestr uchod yn adlewyrchu eich anghenion yn ddigonol, rhowch wybod i ni drwy ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Boddhad defnyddwyr

Mae ymgysylltu â defnyddwyr allweddol ar draws Llywodraeth Cymru, DHCW a Byrddau Iechyd Lleol yn digwydd yn aml. Canfu ymarfer bach ymgysylltu â defnyddwyr yn 2022 fod yr ystadegau yn hanfodol i ddeall gweithgarwch a pherfformiad mewn gwasanaethau canser yng Nghymru a bod y data'n cael ei ystyried yn gredadwy ac yn ddibynadwy. Mae rhai dadansoddiadau pellach a fyddai'n ddefnyddiol ond nad ydynt yn cael eu casglu yn y data ar hyn o bryd, er enghraifft, data islaw’r prif fathau o diwmor (is-safle'r tiwmor). Nodwyd rhai materion ynghylch hygyrchedd, yn ymwneud yn bennaf â’r ffordd mae StatsCymru yn gweithio, ac efallai y bydd modd mynd i'r afael â'r rhain fel rhan o adolygiad a gwaith ailadeiladu StatsCymru. Bwriad yr ystadegau yw rhoi darlun lefel uchel o weithgarwch a pherfformiad gwasanaethau canser yng Nghymru. Cyhoeddir dadansoddiadau manylach yn seiliedig ar yr un data sylfaenol mewn dangosfwrdd DHCW, a chyhoeddir ystadegau ar ddigwyddedd, lefelau goroesi a chyfraddau marwolaethau canser gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Croesewir adborth yn ymwneud ag ystadegau llwybrau lle'r amheuir canser, a gellir ei gyflwyno i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.

Cyflawnrwydd

Mae'r ystadegau'n adlewyrchu data gan bob claf yr amheuir bod ganddo ganser. Caiff data ei dynnu o systemau gweinyddol ac mae'n gofnod cyflawn o weithgarwch canser hysbys ac wedi'i gofnodi. Mae'r llwybr yn mesur yr amser o'r pwynt lle'r amheuir canser hyd ddechrau'r driniaeth.

Mae pob claf sy'n cael eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yng Nghymru wedi'u cynnwys yn y ffigurau hyn. Mae cleifion sy'n cael eu triniaeth ddiffiniol gyntaf y tu allan i Gymru wedi'u heithrio o'r ystadegau swyddogol, ond mae disgwyl i fyrddau iechyd lleol reoli ac adrodd yn anffurfiol ar y cleifion hyn i Lywodraeth Cymru lle bo hynny'n bosibl.

Mae Byrddau Iechyd Lleol lle mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio i ddechrau yn gyfrifol am roi gwybod am yr amseroedd aros canser ar gyfer y cleifion hynny, ble bynnag y darperir ymgynghoriadau neu driniaeth. Mae Byrddau Iechyd Lleol lle mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio bob amser yn gyfrifol am fonitro cynnydd cleifion ac adrodd arno.

Cywirdeb a dibynadwyedd

Cywirdeb cyffredinol

Mae'r ystadegau'n seiliedig ar ddata gweinyddol. O ganlyniad, mae camgymeriadau cofnodi a phrosesu data (gwall nad yw'n wall samplu) yn bosibl. Gallai'r rhain ddigwydd pan gaiff data ei gofnodi'n anghywir i systemau gweinyddol neu drwy gamgymeriadau mesur sy'n deillio o ddehongliadau anghyson o ddiffiniadau.

Er mwyn lleihau camgymeriadau nad ydynt yn gamgymeriadau samplu, darperir safonau a chanllawiau am y casgliadau data (DHCW). Mae safonau sy'n ymwneud â'r casgliad data hwn wedi cael eu hadolygu a'u cymeradwyo gan Fwrdd Safonau Gwybodaeth Cymru (WISB). Pan fydd gwall nad yw'n wall samplu yn effeithio ar y data, ac yn cael ei nodi, rydym yn darparu gwybodaeth lawn i ddefnyddwyr i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ar ansawdd yr ystadegau.

Mae camgymeriadau cwmpas hefyd yn bosibl. Gallai diffyg cwmpas ddeillio o achosion ddim yn cael eu cofnodi, neu gamgymeriadau wrth gofnodi data. Gallai cwmpas gormodol ddeillio o gofnodion dyblyg ddim yn cael eu nodi a’u dileu. Nid oes unrhyw reswm hysbys i amau bod maint y diffyg cwmpas neu'r cwmpas gormodol yn y data yn sylweddol, ac mae'r prosesau sicrhau ansawdd sydd ar waith yn lleihau'r risg.

Bernir bod y risg o unrhyw effaith sylweddol ar yr ystadegau cyfanredol o ganlyniad i gamgymeriadau cwmpas a chamgymeriadau nad ydynt yn gamgymeriadau samplu yn isel iawn.

Diwygio data

Gall diwygiadau i ddata ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys data a ddychwelwyd yn hwyr, amcangyfrifon anghywir neu ôl-ddata diwygiedig. Gall data misol gael ei adolygu hyd at bum mis ar ôl ei gyhoeddi. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i fyrddau iechyd lleol werthuso unrhyw ddiwygiadau cyn eu cyflwyno. Er enghraifft:  yn y datganiad ystadegol a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022, lle'r oedd y data diweddaraf ar gyfer gwasanaethau canser yn perthyn i fis Mehefin 2022, diwygiwyd y data ar gyfer pedwerydd chwarter ariannol 2021-22 (Ionawr, Chwefror a Mawrth 2022) ar StatsCymru.

Nodir unrhyw ddiwygiadau pellach i'r data yn y datganiad ystadegol ac yn yr wybodaeth sy'n cyd-fynd â setiau data StatsCymru. Byddai diwygiadau mawr yn cael eu nodi ar y dudalen crynhoi penawdau.

Mae nodiadau ar ddiwedd y datganiad yn hysbysu'r defnyddwyr a yw'r allbynnau wedi'u diwygio ai peidio (dynodir r). Byddwn hefyd yn rhoi syniad o faint y diwygiad rhwng y datganiad diweddaraf a'r datganiad blaenorol.

Caiff defnyddwyr eu hysbysu am ddiwygiadau yn unol â pholisi diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau Llywodraeth Cymru.

Amseroldeb a phrydlondeb

Amseroldeb

Cyhoeddir ystadegau bob mis tua 7 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod cyfeirio. Mae allbynnau'n cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer ystadegau swyddogol. Cyhoeddir cyhoeddiadau ymlaen llaw ar dudalennau ystadegau ac ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Caiff allbynnau sydd wedi'u gohirio eu trin yn unol â threfniadau diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau Llywodraeth Cymru.

Prydlondeb

Mae cyhoeddiadau sydd wedi'u gohirio, eu canslo neu wedi dod allan yn hwyr yn brin iawn. Ers cyflwyno'r ystadegau gwasanaethau canser sy'n seiliedig ar SCP yn 2019, ni fu achos lle na chyhoeddwyd yr ystadegau ar amser am 9:30 ar y diwrnod rhyddhau a gyhoeddwyd ymlaen llaw.

Cydlyniaeth a chymaroldeb

Cymaroldeb daearyddol

Mae safonau a diffiniadau y cytunwyd arnynt yng Nghymru (DHCW) yn rhoi sicrwydd bod y data'n gyson rhwng Byrddau Iechyd Lleol. Cyhoeddir y rhain ar wefan DHCW.

Mae pedair gwlad y DU yn cyhoeddi ystadegau ar amseroedd aros canser ar wahân. Mae'r allbynnau'n wahanol, gan adlewyrchu gwahanol flaenoriaethau polisi'r gwahanol wledydd. Mae grŵp pedair gwlad wedi'i sefydlu i gasglu gwybodaeth am gysyniadau a diffiniadau yn ystadegau'r GIG, gan gynnwys ystadegau canser. Gellir gofyn am grynodeb o wybodaeth gan gss.health@ons.gov.uk ac mae gwaith manylach yn mynd rhagddo i ddeall yn llawn a disgrifio i ba raddau y gellir cymharu ystadegau'r gwledydd.

Yn Lloegr, mae'r ystadegau'n cael eu cyhoeddi'n fisol gan NHS England - NHS England - Cancer Waiting Times. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar safonau gweithredol ar gyfer ymrwymiadau amseroedd aros canser yn y National Cancer Waiting Times Monitoring Data Set (GIG Cymru Digidol).

Yn yr Alban, mae'r ystadegau yn cael eu casglu a'u cyhoeddi'n chwarterol gan Information Services Division (ISD) Scotland - ISD Scotland - Cancer Waiting Times.

Yng Ngogledd Iwerddon, cyhoeddir yr ystadegau yn chwarterol gan yr Adran Iechyd - Northern Ireland - Cancer Waiting Times.

Cymaroldeb dros amser

Nid yw ystadegau gwasanaethau canser SCP yn uniongyrchol gymaradwy â'r ystadegau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan fod data yn arfer cael ei gofnodi ar wahân ar sail llwybrau brys a llai brys. Mae ystadegau SCP wedi'u casglu mewn ffordd gyson a chymaradwy ers mis Rhagfyr 2020.

Er i ohiriadau gael eu cymhwyso o dan y dull blaenorol, nid ydynt bellach yn cael eu cymhwyso ar gyfer monitro perfformiad gydag ystadegau SCP. Felly, mae'r data presennol ar lwybrau sydd wedi cau ar gyfer cleifion sy'n dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf yn gymaradwy â’r data SCP cyn mis Chwefror 2021 heb ohiriadau (StatsCymru), sy'n dyddio'n ôl i fis Mehefin 2019.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddi

Caiff yr ystadegau eu cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru a'u cyhoeddi am 9:30am ar ddydd Iau olaf ond un bob mis. Mewn misoedd byrrach lle na fyddai cyhoeddi ar y dydd Iau olaf ond un yn caniatáu prosesu a dilysu digonol, symudir y datganiad i ddydd Iau olaf y mis. Rhoddir rhybudd o'r newid hwn yng nghyhoeddiad y mis blaenorol. Mae'r holl ddyddiadau cyhoeddi ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'u hamlinellu yn y calendr cyhoeddiadau sydd i ddod.

Darperir penawdau, sylwebaeth naratif a siartiau sy'n dangos tueddiadau yn y datganiad ystadegol misol, a gyhoeddir ar ffurf HTML ar ein gwefan. Gellir gweld neu lawrlwytho'r gyfres lawn o ddata fel data agored ar wefan StatsCymru. Mae rhai materion hysbys sy'n effeithio ar gyflwyniad ac ymarferoldeb yr holl ddata a gyhoeddir ar StatsCymru. Gall y rhain effeithio ar allu rhai defnyddwyr i gyrchu a defnyddio'r ystadegau, a bydd y rhain yn cael eu hystyried fel rhan o adolygiad o StatsCymru y bwriedir iddo arwain at blatfform gwell.
Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r allbynnau ar Twitter. Mae'r holl allbynnau a datganiadau ar gael i'w lawrlwytho.

Gall y data manylach sydd ar gael ar wefan StatsCymru gael ei drin ar-lein neu ei lawrlwytho i daenlenni i'w ddefnyddio all-lein.

Ein nod yw defnyddio Saesneg plaen yn ein hallbynnau ac mae'r holl allbynnau'n glynu wrth bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Cyhoeddir ein datganiadau ystadegol yn Gymraeg a Saesneg.

Cronfeydd data ar-lein

Cyhoeddir y gyfres hanesyddol lawn o ystadegau yn nhablau canlynol StatsCymru:

Dogfennaeth ar fethodoleg

Mae'r ffynonellau gwybodaeth canlynol yn berthnasol i'r casgliad data a'r ystadegau a gyhoeddir ar wasanaethau canser:

Dogfennaeth ansawdd

Mae'r ffynonellau gwybodaeth canlynol yn berthnasol i ansawdd y data a'r ystadegau a gyhoeddir ar wasanaethau'r GIG yng Nghymru, gan gynnwys gwasanaethau canser:

Cost a baich

Mae'r data SCP yn deillio o System Data Gweinyddol Cleifion Cymru (WPAS) drwy fodiwl 'olrhain canser'. Mae dau fwrdd iechyd yng Nghymru nad ydynt yn defnyddio WPAS, felly maent yn darparu data i DHCW â llaw o'u systemau eu hunain.

Mae'r systemau gweinyddol sy'n sail i'r data yn bodoli at ddibenion gweithredol, ac nid oes angen casglu data’n benodol er mwyn cynhyrchu'r ystadegau hyn. Mae'r data a ddarperir i DHCW yn cael ei lwytho i gronfa ddata ganolog genedlaethol o gofnodion gofal cleifion canser ledled Cymru. Dim ond data sy'n angenrheidiol ar gyfer yr ystadegau sy'n cael ei gynnwys. Nid oes gwybodaeth benodol ar gael ar gyfer y costau sy'n gysylltiedig â chasglu a chydgrynhoi'r data yn benodol at ddibenion cynhyrchu'r ystadegau swyddogol.

Cyfrinachedd

Cyfrinachedd: polisi

Mae datganiad ystadegau ac ymchwil Llywodraeth Cymru ar gyfrinachedd a gweld data yn disgrifio ein dull o ymdrin â chyfrinachedd data ac yn cydymffurfio ag egwyddor llywodraethu data y golofn Dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrinachedd: trin data

Er bod data lefel cleifion yn cael ei gasglu gan DHCW, dim ond data cyfanredol sydd wedi'i gynnwys yn y data a ddarperir i Lywodraeth Cymru i sicrhau mai dim ond y data angenrheidiol sy'n cael ei gadw'n ganolog gan Lywodraeth Cymru.

Er bod yr ystadegau a gyhoeddir yn cynnwys rhai rhifau bach, ni ystyrir bod yr wybodaeth yn sensitif ei natur ac ni chyflwynir unrhyw wybodaeth bersonol a allai arwain at adnabod pobl.

Yn dilyn asesiad risg datgelu mewnol, rydym yn asesu bod y risg datgelu yn seiliedig ar yr ystadegau a gyhoeddwyd yn isel iawn. Felly, nid ydym yn cymhwyso ataliad i werthoedd bach. Mae hyn yn unol ag ymarfer yng ngwledydd eraill y DU gydag ystadegau amseroedd aros canser.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Ryan Pike
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099