Neidio i'r prif gynnwy

“Mae dros ddwy ran o dair o gyflogwyr (70%), yn graddio sgiliau llythrennedd a rhifedd fel un o'u tair ystyriaeth bwysicaf wrth recriwtio ymadawyr ysgol a Choleg, ond bron hanner (45%) o fusnesau yn rancio dawn a pharodrwydd ar gyfer gwaith fel y sengl ffactor pwysicaf”

Educating for the Modern World, CBI/Pearson Education and Skills Annual Report, Tachwedd 2018

Bydd Cwricwlwm i Gymru yn paratoi pobl ifanc ar gyfer dyfodol sy'n newid yn gyflym a byd gwaith.  

Mae cymhwysedd digidol yn yn ofyniad trawsgwricwlaidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd. Bydd datblygu'r sgiliau sy'n rhan annatod o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru (creadigrwydd ac arloesi; meddwl yn feirniadol a datrys problemau; effeithiolrwydd personol; a chynllunio a threfnu) yn helpu paratoi pobl ifanc mewn addysg a hyfforddiant, mewn gwaith ac mewn bywyd yn fwy cyffredinol.

Bydd dealltwriaeth o fyd gwaith yn dechrau o oedran cynnar. Mae addysg a phrofiadau byd gwaith yn thema drawsbynciol yn Cwricwlwm i Gymru ar gyfer plant rhwng 3 ac 16 oed. Disgwylir i ysgolion a lleoliadau ddilyn y canllawiau statudol ar gyfer gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith wrth ddatblygu eu cwricwlwm.  Mae'r pecyn cymorth gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith yn adnodd i gefnogi ymgorffori mewn ysgolion a lleoliadau.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn grwpio pynciau yn chwe maes dysgu a phrofiad. Bydd pynciau penodol yn dal i gael eu haddysgu, ond gall ysgolion benderfynu dod â nhw at ei gilydd fel bod dysgwyr yn deall y cysylltiadau rhyngddynt. Er enghraifft, gallai athrawon gyflwyno entrepreneuriaeth trwy Wyddoniaeth a Thechnoleg neu'r Celfyddydau Mynegiannol.

A fydd cymwysterau'n newid?

Bydd cymwysterau yn 16 oed yn newid, gan addasu dros amser i adlewyrchu'r cwricwlwm. Bydd cymwysterau TGAU yn dal i fodoli ond bydd y cymwysterau bydd eich plentyn yn astudio o 14-16 yn gweddu â Cwricwlwm i Gymru, ac felly gallent edrych yn wahanol i gymwysterau TGAU heddiw.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru.

Sut y gallwch chi gymryd rhan fel busnes?

Pan fydd y cwricwlwm yn fyw, gobeithiwn y byddwch yn cysylltu ag ysgolion i gynnig profiadau a phrosiectau sy'n helpu pobl ifanc i ddeall byd busnes a gwaith.

Mae Gyrfa Cymru yn hwyluso'r Gyfnewidfa Addysg Busnes i roi cyfleoedd i ddatblygu rhaglenni cyffrous i wella'r cwricwlwm i ddysgwyr.