Map Llwybrau Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Sut y byddwn yn sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod fel rhan bwysig o'r gymdeithas yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair gan y gweinidog
Rwy'n falch o gyflwyno map llwybrau Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a fydd yn ein helpu i sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod, ei hyrwyddo a'i hwyluso yn well ledled Cymru, a gwella canlyniadau i'r gymuned arwyddo BSL fyddar.
Y map llwybrau yw'r cam cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru sy'n parchu, yn hyrwyddo ac yn hwyluso BSL. Mae'r camau gweithredu byrdymor yn y map llwybrau, a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis, wedi cael eu llywio gan argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.
Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi rhoi cyngor ar y meysydd â blaenoriaeth sydd eu hangen i hyrwyddo BSL, herio rhwystrau a sicrhau bod yr iaith yn cael ei pharchu fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.
Er bod gwaith cychwynnol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi dod i ben bellach, rydym yn cydnabod ei bod yn bwysig parhau i ymgysylltu â'r gymuned BSL fyddar yng Nghymru. Mae aelodau o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi ailgynnull fel grŵp newydd, i roi cyngor ar y gwaith o ddatblygu'r map llwybrau BSL a'i roi ar waith.
Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL, ynghyd â'r ddau gyd-gadeirydd, am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y broses hon. Mae'r camau gweithredu yn y map llwybrau hwn wedi cael eu llywio gan brofiadau bywyd a gwydnwch aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL.
Mae gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn gam cadarnhaol ymlaen i gefnogi arweinyddiaeth fyddar a chryfhau ymgysylltiad ag aelodau o'r gymuned arwyddo BSL fyddar drwy waith partneriaeth ystyrlon. Mae defnyddio BSL fel prif iaith a dysgu o brofiadau bywyd aelodau Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi ein helpu i feithrin dealltwriaeth well o'r meysydd â blaenoriaeth ar gyfer gweithredu a newid, a nodi'r heriau a'r rhwystrau iaith sy'n wynebu arwyddwyr BSL byddar.
Byddwn yn parhau i gryfhau'r ymgysylltiad hwn â'r gymuned arwyddo BSL fyddar ymhellach drwy waith a chyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd yn parhau i lywio ac arwain ein gwaith a pholisïau trawslywodraethol.
Rwy'n ymrwymedig i gyflawni ein huchelgais hirdymor i rymuso ein cymuned arwyddo BSL fyddar a sicrhau bod BSL yn cael ei gwerthfawrogi a'i bod yn weladwy ledled Cymru Drwy ganolbwyntio'n gyntaf ar gyflawni blaenoriaethau byrdymor, gallwn adeiladu'r sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol.
Drwy ein hymdrechion ar y cyd, gallwn gael effaith a sicrhau newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar ledled Cymru.
Jane Hutt AS.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip.
Adran 1: uchelgais a diben
Uchelgais
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yw iaith gyntaf neu ddewis iaith y gymuned fyddar yng Nghymru, ac mae ganddi ei hunaniaeth ieithyddol a'i threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ei hun. Mae BSL yn iaith sydd â'i gramadeg, ei chystrawen a'i geirfa unigryw ei hun. Cafodd ei chydnabod fel iaith gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2004.
Ein huchelgais yw adeiladu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar, a chreu Cymru sy'n hyrwyddo mynediad teg ac sy'n hyrwyddo, yn hwyluso ac yn gwerthfawrogi BSL fel rhan hanfodol o'r gymdeithas yng Nghymru.
Ein nod yw hyrwyddo BSL a chodi ymwybyddiaeth ohoni, ac annog mwy o ddealltwriaeth, gwelededd, a chynhwysiant ym mhob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru. Drwy feithrin diwylliant o barch a chydnabyddiaeth, rydym yn ceisio sicrhau bod BSL yn cael ei derbyn a'i dathlu fel rhan annatod o dirwedd ieithyddol a diwylliannol Cymru.
Diben y map llwybrau
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r rhwystrau iaith presennol a'u herio er mwyn sicrhau tegwch i arwyddwyr BSL byddar. Rydym yn benderfynol o ysgogi newid cadarnhaol hirdymor i arwyddwyr BSL byddar drwy sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod, ei hyrwyddo a'i hwyluso'n well ledled Cymru.
Mae'r map llwybrau BSL yn nodi'r camau gweithredu byrdymor cychwynnol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, a gaiff eu cwblhau o fewn 18 mis. Y camau gweithredu hyn yw'r camau cyntaf tuag at gyflawni ein huchelgais i greu Cymru lle caiff BSL ei pharchu, ei hyrwyddo a'i hwyluso. Mae'r map llwybrau yn gosod y sylfeini ar gyfer polisïau, strategaethau a chynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ac, yn y pen draw, yn creu newid parhaol a mwy o gynhwysiant i arwyddwyr BSL byddar.
Mae canolbwyntio i ddechrau ar gamau gweithredu byrdymor yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni darnau pwysig o waith mapio, cwmpasu a chasglu data. Bydd y camau gweithredu yn cael eu defnyddio fel y camau paratoadol angenrheidiol i lywio ac arwain gwaith datblygu polisi yn y ffordd orau bosibl yn y dyfodol. Bydd y camau cynnar hyn yn helpu i osod y sylfaen ar gyfer cynnydd yn y dyfodol ac yn darparu'r dystiolaeth sydd ei hangen i gyflawni camau gweithredu pellach.
Cydraddoldeb
Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi'u hymwreiddio yn y camau gweithredu a amlinellir yn y map llwybrau BSL. Mae hawl gan bob unigolyn i gael ei drin yn deg. Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu Cymru sy'n fwy teg, sy'n sicrhau mynediad cyfartal i wasanaethau ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn rhagweithiol. Mae hyn yn adlewyrchu ein nod ehangach o genedl sy'n seiliedig ar urddas, tegwch a chynhwysiant.
Fel rhan o'n dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025 i 2029 wedi nodi saith Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol.
Bydd y map llwybrau BSL yn helpu i gyflawni Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn ogystal â'n huchelgais gyffredinol i greu Cymru gyfartal gan roi cynhwysiant wrth wraidd polisïau Llywodraeth Cymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n sefydlu diben cyffredin cyfrwymol drwy saith nod llesiant ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill.
Bydd y darpariaethau polisi a amlinellir yn y map llwybrau yn cyfrannu'n uniongyrchol tuag at Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gan helpu i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl ar y Nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Yn benodol, mae'r map llwybrau yn cefnogi cynnydd tuag at y canlynol: Cymru sy'n fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.
Adran 2: cydweithio
Mae'r map llwybrau BSL wedi cael ei lywio gan brofiadau bywyd y gymuned arwyddo BSL fyddar yng Nghymru, drwy gyngor gan aelodau o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL. Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL ei sefydlu ym mis Ionawr 2025, yn dilyn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip.
Mae cylch gorchwyl y grŵp wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Roedd y grŵp yn gyfrifol am ddatblygu cyfres o argymhellion er mwyn helpu Llywodraeth Cymru i lunio ‘map llwybrau’ ar gyfer polisi BSL. Mae'r grŵp wedi gorffen ei waith ac mae ei argymhellion wedi cael eu cyhoeddi.
Roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi cyfarfod bob mis rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2025 i edrych ar rwystrau iaith a'r camau gweithredu sydd eu hangen i sicrhau mynediad teg at wybodaeth a gwasanaethau i arwyddwyr BSL byddar mewn ystod eang o feysydd polisi.
Roedd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn cynnwys cymysgedd cynrychioliadol ac amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys mudiadau ac elusennau i bobl fyddar, a chyfrannodd pob un ohonynt arbenigedd gwerthfawr a phrofiadau bywyd.
Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wedi galluogi model o arweinyddiaeth fyddar, lle mai BSL oedd prif iaith y grŵp. Roedd yn cael ei gyd-gadeirio gan ddau arwyddwr BSL byddar. Roedd y strwythur hwn wedi gosod cynsail ar gyfer cydweithio cynhwysol sy'n canolbwyntio ar iaith.
Mae gweithio gyda'r gymuned arwyddo BSL fyddar yng Nghymru wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein camau gweithredu byrdymor yn ystyrlon ac yn mynd i'r afael ag anghenion a blaenoriaethau'r gymuned arwyddo BSL fyddar.
Rydym yn ymrwymedig o hyd i gryfhau ein cydberthnasau drwy weithio ac ymgysylltu'n barhaus, gan sicrhau bod arweinyddiaeth fyddar a phrofiadau bywyd y gymuned yn parhau i lywio ein gwaith a pholisïau trawslywodraethol a ddatblygir a dylanwadu arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid BSL newydd i roi cyngor parhaus a goruchwylio'r ffordd y caiff y map llwybrau hwn ei roi ar waith.
Adran 3: camau gweithredu byrdymor i Lywodraeth Cymru
Caiff y camau gweithredu byrdymor a gymerir gan Lywodraeth Cymru yn ystod y 18 mis nesaf eu hamlinellu isod. Drwy gymryd y camau cychwynnol hyn, rydym yn ceisio cynnal momentwm a sicrhau ein bod yn paratoi ar gyfer nodau hirdymor yn y dyfodol.
Ym mhob rhan o'r llywodraeth, rydym wedi dechrau gwneud cynnydd i sicrhau bod BSL yn cael ei chydnabod, ei hyrwyddo a'i hwyluso'n well ledled Cymru, a chyflawni ein huchelgais i greu cymdeithas sy'n grymuso'r gymuned arwyddo BSL fyddar. Bydd y camau gweithredu byrdymor a amlinellir yn y map llwybrau hwn yn cyd-fynd â strategaethau a gwaith trawslywodraethol sy'n mynd rhagddynt yn barod ac yn adeiladu arnynt.
Cafodd ‘Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy’ 2013 eu hadolygu yn 2023 ar y cyd â rhanddeiliaid. Ar 22 Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fersiwn newydd, ehangach o Safonau Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch Cymru Gyfan y GIG.
I gyd-fynd â'r Safonau hyn, cyhoeddwyd y Weithdrefn Weithredu Safonol ar gyfer comisiynu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ym maes gofal iechyd sylfaenol ac argyfwng, a'r Safon Gwybodaeth Hygyrch ar gyfer practisau meddygon teulu.
Mae'r Safonau newydd yn cynnwys cofnodi a chadw gwybodaeth gywir am gleifion, er mwyn galluogi darparwyr gwasanaeth i gyfathrebu â chleifion, gan gynnwys arwyddwyr BSL byddar, mewn ffordd glir ac effeithiol. Bydd y camau a gymerir i roi'r Safonau newydd ar waith yn ategu ac yn cefnogi gwaith y map llwybrau BSL. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau gwasanaethau gofal iechyd cyfartal i arwyddwyr BSL byddar.
Mae Cynllun Hawliau Pobl Anabl Cymru yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal. Mae'r Cynllun yn cynnwys cam gweithredu mewn perthynas ag arwyddwyr BSL yng Nghymru. Gwyddom nad yw llawer o arwyddwyr BSL byddar yn ystyried eu bod yn anabl a'u bod yn hytrach, yn ystyried eu bod yn perthyn i leiafrif ieithyddol. Bydd y map llwybrau BSL yn eistedd ochr yn ochr â'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, gan gydnabod bod gan BSL ei hunaniaeth ieithyddol, hanesyddol a diwylliannol unigryw ei hun. Bydd camau gweithredu yn y map llwybrau BSL a'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cefnogi ei gilydd ac yn ategu'r nod o hyrwyddo a hwyluso BSL.
Mae gwaith paratoadol cychwynnol ar lawer o'r camau gweithredu byrdymor a amlinellir isod wedi dechrau cyn i'r map llwybrau gael ei gyhoeddi. Mae gwaith ymgysylltu trawslywodraethol wedi cadarnhau y bydd y camau gweithredu hyn yn integreiddio â gwaith polisi parhaus Llywodraeth Cymru ac yn ychwanegu ato.
Camau gweithredu byrdymor
Mae camau gweithredu byrdymor wedi cael eu grwpio o dan y themâu canlynol:
- Casglu data a thystiolaeth o ran BSL.
- Hyrwyddo BSL fel iaith.
- Darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru.
- Llwybrau o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
Thema: Casglu data a thystiolaeth o ran BSL
Byddwn yn mynd i'r afael â'r ffaith nad oes digon o ddata BSL cyfoethog a chynrychioliadol ar gael ac yn ystyried pa ddata BSL y gellir eu cynhyrchu.
Ein camau gweithredu
Casglu data BSL
Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i archwilio a nodi pa rwystrau sy'n bodoli wrth geisio casglu a choladu data BSL, er mwyn llywio camau casglu data ystadegol yn y dyfodol. Bydd y gwaith ymchwil yn archwilio ac yn asesu'r ffyrdd y caiff data BSL eu casglu ar hyn o bryd yng Nghymru ac yn y DU. Dylid eu cymharu â modelau casglu data presennol o bob rhan o'r DU ac yn rhyngwladol.
Sgiliau BSL yn y gweithlu addysg
Fel rhan o'r gwaith o weithredu'r Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysgu, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall faint o ymarferwyr ysgol ac athrawon ymgynghorol awdurdodau lleol sy'n gallu arwyddo BSL ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol i ddatblygu sgiliau BSL ymarferwyr ar gyfer y dyfodol.
Thema: hyrwyddo BSL fel iaith
Byddwn yn hyrwyddo BSL, yn codi ymwybyddiaeth ohoni, ac yn sicrhau ei bod yn fwy gweladwy ledled Cymru, a byddwn yn gwella dealltwriaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru bod BSL yn iaith gyflawn a chyfoethog sy'n rhan o dreftadaeth ddiwylliannol unigryw.
Ein camau gweithredu
Cynllun i nodi a all unigolyn arwyddo BSL
Bydd Llywodraeth Cymru yn asesu a ellir datblygu cynllun, fel bathodyn, fel bod arwyddwyr BSL, a phobl sy'n dysgu BSL, yn hawdd eu hadnabod. Gall y bathodyn hwn gael ei wisgo gan weithwyr proffesiynol a phobl sy'n darparu gwasanaethau, yn yr un modd â'r cynllun Iaith Gwaith, sy'n cael ei ddefnyddio i ddangos bod unigolyn yn siarad Cymraeg neu'n dysgu Cymraeg. Gallai'r cynllun gael ei ddefnyddio hefyd i ddangos lleoliadau cyhoeddus sy'n croesawu BSL a staff sy'n arwyddo.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried symbolau hanesyddol a phresennol sy'n ymwneud â defnyddio, gweld a chydnabod BSL ac yn adeiladu arnynt.
Hyrwyddo rôl BSL yn y sector addysg
Bydd Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo BSL fel iaith mewn lleoliadau addysgol ac yn codi mwy o ymwybyddiaeth o hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol BSL. Dylai BSL gael ei hyrwyddo a'i chydnabod mewn lleoliadau addysgol fel iaith sydd ar wahân i adnoddau cyfathrebu a systemau arwyddion.
Rhannu enghreifftiau o arfer da: beth yw arfer da
Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio tystiolaeth i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arfer da mewn lleoliadau gwasanaethau cyhoeddus.
Thema: Darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru
Byddwn yn cryfhau'r ddarpariaeth BSL ym mhob rhan o ymdrechion cyfathrebu BSL Llywodraeth Cymru.
Ein camau gweithredu
Adolygu a chryfhau darpariaeth BSL Llywodraeth Cymru
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ei modelau a'i phrosesau presennol ar gyfer darparu a chaffael BSL er mwyn cryfhau'r ddarpariaeth BSL wrth gyfathrebu â'r cyhoedd, gyda'r nod o sicrhau darpariaeth gyson ar draws y sefydliad. Gallai hyn gynnwys deunydd cyfathrebu â'r cyhoedd, canllawiau cyhoeddus ac ymgyngoriadau, ymhlith pethau eraill. Bydd yr adolygiad yn ystyried y sefyllfa bresennol ac yn asesu a oes unrhyw fylchau a meysydd y mae angen eu cryfhau.
Adolygu a chryfhau canllawiau diogelu ar gyfer y gymuned arwyddo BSL fyddar
Bydd Llywodraeth Cymru yn cryfhau'r canllawiau ac adnoddau BSL sydd ar gael mewn perthynas â rhoi gwybod am achosion o gam-drin ac esgeuluso plant ac oedolion sy'n wynebu risg. I wneud hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adolygu'r canllawiau presennol a llwybrau adrodd i nodi:
- a oes canllawiau ar gael ar hyn o bryd drwy gyfrwng BSL a bod cyfieithiadau yn addas i'r arwyddwyr BSL byddar sydd fwyaf agored i niwed, gan gynnwys y rhai ag anghenion ieithyddol neu wybyddol ychwanegol. Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio ar ganllawiau a gwybodaeth i aelodau o'r cyhoedd, ar adnabod, nodi a rhoi gwybod am risgiau diogelu sy'n rhan o gyfrifoldeb awdurdodau lleol
- a yw prosesau adrodd yn galluogi arwyddwyr BSL byddar i godi pryderon yn uniongyrchol gan ddefnyddio BSL
- a yw ymwybyddiaeth o gymorth diogelu yn cael ei hyrwyddo'n effeithiol ymhlith y gymuned arwyddo BSL fyddar
Bydd adolygiad arall a gynhelir fel rhan o'r strategaeth 10 mlynedd ar Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn nodi adnoddau cyhoeddus ehangach sydd ar gael ac yn mapio unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth BSL a meysydd y mae angen eu cryfhau.
Thema: llwybrau o fewn gwasanaethau cyhoeddus
Byddwn yn adolygu ac yn gwella llwybrau ar gyfer darpariaeth BSL o fewn gwasanaethau cyhoeddus.
Ein camau gweithredu
Gwasanaethau iechyd meddwl pob oed
Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r llwybr a'r broses bresennol ar gyfer cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl BSL. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar argaeledd cymorth a gofal iechyd meddwl a mesurau ataliol sy'n briodol o safbwynt ieithyddol a diwylliannol, gan ystyried sut y gall arwyddwyr BSL byddar gael gafael ar y ddarpariaeth hon.
Mapio darpariaeth BSL yn y blynyddoedd cynnar
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i fapio ac adolygu sut y caiff plant byddar eu nodi drwy brofion sgrinio gofal iechyd yn y blynyddoedd cynnar, a deall y llwybr cymorth a ddarperir. Bydd y gwaith hwn yn asesu'r ddarpariaeth BSL bresennol sydd ar gael, o adeg diagnosis, i alluogi plant byddar a'u teuluoedd i gaffael iaith yn gynnar, gan nodi unrhyw fylchau a rhwystrau sy'n bodoli ar hyn o bryd.
Asesiadau o anghenion y boblogaeth
Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall ystyriaethau BSL gael eu hymgorffori mewn asesiadau o anghenion drwy ganllawiau, a fydd yn cyfeirio'n benodol at anghenion iechyd a gofal arwyddwyr BSL.
Adran 4: y camau nesaf
Bydd y gwaith ar y camau gweithredu byrdymor yn dechrau pan gaiff y map llwybrau hwn ei gyhoeddi a'r targed ar gyfer eu cwblhau yw o fewn 18 mis i'r man cychwyn. Mae rhoi cyfnod o 18 mis i gwblhau'r camau gweithredu byrdymor yn ein galluogi i bennu camau gweithredu mesuradwy seiliedig ar amser i sicrhau newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar.
Mae datblygu'r map llwybrau BSL yn garreg filltir bwysig o ran hyrwyddo cynhwysiant ieithyddol yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu arbenigedd cyfunol, profiadau bywyd, ac ymrwymiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL, y mae eu cyfraniadau wedi llywio'r camau gweithredu byrdymor a amlinellir yn y ddogfen hon.
Mae gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r gwaith o ddatblygu'r map llwybrau BSL wedi pwysleisio ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru a'r gymuned BSL fyddar gymryd rhan ystyrlon yn y gwaith o lywio, darparu, a gwerthuso polisïau a gwasanaethau.
Nid cydweithio ymgynghorol yn unig yw hwn, mae'n sylfaenol er mwyn cydnabod BSL fel iaith yn ei rhinwedd ei hun a sicrhau ei bod yn cael ei hystyried mewn polisïau cyhoeddus. Rydym yn ymrwymedig o hyd i ddyfnhau'r ymgysylltiad hwn, gan sicrhau bod arwyddwyr BSL byddar yn ganolog i brosesau gwneud penderfyniadau a bod eu profiadau bywyd yn parhau i lywio ac ysgogi gwaith datblygu polisi.
Er mwyn cynnal momentwm a sicrhau atebolrwydd, cynhelir cyfarfodydd â rhanddeiliaid BSL drwy gydol y cyfnod cyflawni. Ar ôl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL gwblhau ei waith, mae wedi ailgynnull o dan Gylch Gorchwyl newydd. Bydd y cyfarfodydd hyn yn rhoi cyfleoedd i adolygu cynnydd, rhannu'r newyddion diweddaraf, a pharhau i ymgysylltu'n gadarn â rhanddeiliaid.
Bydd y map llwybrau yn ddogfen fyw y gellir ei haddasu wrth i waith fynd rhagddo, er mwyn sicrhau bod camau gweithredu yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ymatebol i newid.
Nid diwedd y broses yw'r map llwybrau BSL hwn ond dechrau taith hirach tuag at gydraddoldeb, gwelededd, a newid ystyrlon i arwyddwyr BSL byddar yng Nghymru.
Bydd gwaith Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL i lunio cyfres o argymhellion yn gosod y sylfeini i lywio polisïau yn y dyfodol.
Mae'r map llwybrau yn amlinellu'r camau pwysig â blaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo a hwyluso BSL a gwella canlyniadau i gymuned arwyddo BSL fyddar Cymru yn y tymor byr. Bydd y camau gweithredu hyn yn cefnogi gwaith polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n debygol y bydd unrhyw Lywodraeth newydd yn ystyried argymhellion tymor hwy Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL wrth ddatblygu polisïau a strategaethau yn y dyfodol.
Caiff camau gweithredu mewn ymateb i'r argymhellion hirdymor a luniwyd gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL eu pennu a'u cymryd gan lywodraethau yn y dyfodol, gan sicrhau parhad a chynnydd parhaus y tu hwnt i'r cam cychwynnol.
Rhestr termau
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mae BSL yn iaith sydd â'i gramadeg, ei chystrawen a'i geirfa unigryw ei hun a BSL yw iaith gyntaf neu ddewis iaith llawer o bobl fyddar yng Nghymru.
Gweithlu BSL
Mae gweithlu BSL yn cynnwys:
- y gweithlu addysgu ac addysg (sy'n cynnwys y rhai sy'n gweithio mewn ysgolion)
- cyfieithwyr a dehonglwyr BSL
Arweinyddiaeth fyddar
Mae arweinyddiaeth fyddar yn cyfeirio at unigolion byddar yn cymryd rhan weithredol, yn cael eu cynrychioli, ac yn cael eu grymuso er mwyn helpu i wneud penderfyniadau. Y nod yw sicrhau bod pobl â phrofiadau bywyd yn llywio polisïau, strategaethau, a gwasanaethau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn enwedig mewn perthynas â dealltwriaeth ddiwylliannol a hunaniaeth ieithyddol er mwyn llywio prosesau gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod polisïau yn adlewyrchu anghenion y gymuned BSL fyddar yn gywir. Roedd cyfarfodydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid BSL yn cael eu cyd-gadeirio gan arwyddwyr BSL byddar, a BSL oedd prif iaith y grŵp.
Profiad bywyd
Mae profiad bywyd yn cyfeirio at y wybodaeth a'r arbenigedd sy'n deillio o brofiadau personol pobl. Fe'i defnyddir yn aml i lywio a gwella gwasanaethau a pholisïau.
