Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ionawr i Rhagfyr 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig
Mae'r data yn yr adroddiad hwn yn amcangyfrifon dros dro ar gyfer Ionawr i Rhagfyr 2025 gyda diwygiadau data yn ôl i Chwarter 1 2024. Mae cywiriadau sylweddol heb eu trefnu wedi'u cymhwyso i'r data, gan gynyddu gwerthoedd allforio a chyfeintiau 'Olew' a 'Nwy' a gyhoeddwyd yn flaenorol, sydd yn ei dro wedi cynyddu cyfanswm allforion a chyfanswm masnach. Bydd data yn cael ei adolygu'n rheolaidd dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.
Mae'r data yn cwmpasu gwerth (mewn prisiau cyfredol) a chyfaint allforion a mewnforion nwyddau.
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werth masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n gwthio prisiau cyfredol cynhyrchion i fyny.
Yn ein hymgynghoriad diweddar ar allbynnau ystadegol, cynigiom stopio gyhoeddi adroddiad blynyddol Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig (ond parhau gyda'r crynodeb chwarterol byr o bwyntiau allweddol i Gymru). Felly, rydym wedi cymryd seibiant o gyhoeddi'r datganiad blynyddol tra byddwn yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Gall defnyddwyr barhau i gyrchu’r data mwyaf cywir ac amserol (sy'n ymgorffori pob diwygiad) trwy'r penawdau chwarterol a'r dangosfwrdd rhyngweithiol.
Adroddiadau
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
