Masnach nwyddau rhyngwladol Cymreig: Ionawr i Rhagfyr 2025 (prif ddata)
Data ar fasnach nwyddau Cymreig i lefydd tu hwnt i’r DU rhwng Ionawr i Rhagfyr 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Amcangyfrifon dros dro yw'r data yn yr adroddiad hwn ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2025, gyda diwygiadau i'r data yn ôl hyd Chwarter 1 2025. Wnaeth CThEF cyhoeddi cywiriadau sylweddol heb eu trefnu i ystadegau masnach dramor y DU mewn nwyddau yn Nhachwedd 2025, sy'n effeithio'n benodol ar allforion 'Olew' (SITC 33) [troednodyn 1] a 'Nwy' (SITC 34) [troednodyn 2]. Mae'r diwygiadau hyn bellach wedi'u cymhwyso ac wedi cynyddu gwerthoedd a chyfeintiau allforio 'Olew' a 'Nwy' a adroddwyd, a oedd yn ei dro yn effeithio ar gyfansymiau pennawd ar gyfer allforion a masnach gyffredinol (gweler Nodiadau). Ni newidiodd y ffigurau mewnforio yn sylweddol. Bydd data yn cael ei adolygu'n rheolaidd dros y 18 mis nesaf i gyfrif am ffurflenni hwyr.
Mae'r data yn cwmpasu gwerthoedd (prisiau cyfredol) a cyfeintiau o allforion a mewnforion nwyddau.
Mae'n bwysig ystyried effaith digwyddiadau economaidd byd-eang ar werthoedd masnach yn ogystal â phwysau chwyddiant sy'n cynyddu prisiau cyfredol nwyddau.
Y flwyddyn yn gorffen Rhagfyr 2025 (dros dro)
Mae'r dadansoddiad canlynol yn gymhariaeth rhwng y flwyddyn ddiweddaraf o ddata (blwyddyn sy'n dod i ben Rhagfyr 2025) a'r flwyddyn flaenorol (blwyddyn a ddaeth i ben Rhagfyr 2024).
Cyfanswm y fasnach (allforion + mewnforion)
- Cyfanswm gwerth y fasnach Gymreig oedd £39.5 biliwn, i lawr £0.7 biliwn (1.7%) o £40.2 biliwn.
- Cyfanswm gwerth masnach heb 'Olew' i Gymru oedd £32.2 biliwn, cynnydd o £0.3 biliwn (1.0%) o £31.9 biliwn.
- Cyfanswm y cyfaint masnach Gymreig oedd 23.8 biliwn kg, gostyngiad o 0.3 biliwn kg (1.3%) o 24.2 biliwn kg.
- Cyfanswm y gyfaint masnach heb 'Olew' i Gymru oedd 8.3 biliwn kg, gostyngiad o 1.1 biliwn kg (11.5%) o 9.4 biliwn kg.
Allforion
- Profodd holl wledydd y DU gynnydd yng ngwerth allforion, ac eithrio'r Alban a ostyngodd.
- Gwerth allforion nwyddau Cymreig oedd £19.2 biliwn, cynnydd o £0.3 biliwn (1.4%) o £18.9 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan gynnydd o £0.7 biliwn yng ngwerth allforion 'peiriannau ac offer cynhyrchu pŵer'.
- Cyfaint allforion nwyddau Cymreig oedd 7.8 biliwn kg, cynnydd o 0.3 biliwn kg (4.6%) o 7.5 biliwn kg. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan gynnydd o 0.6 biliwn kg yng nghyfaint allforion 'Olew'.
- Gwerth allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd £358.6 billion, cynnydd o £1.2 biliwn (0.3%) o £357.4 biliwn.
- Cyfaint allforion nwyddau ar gyfer y DU oedd 123.2 biliwn kg, gostyngodd 2.9 biliwn kg (2.3%) o 126.1 biliwn kg.
- Parhaodd yr UE i gyfrif am fwyafrif o werthoedd allforio Cymru, yn cyfrif am 55.9%, tra bod yr UE yn cyfrif am 49.0% o werthoedd allforio'r DU.
- Gostyngodd gwerthoedd allforion i wledydd yr UE gan £0.1 biliwn (0.6%) i £10.7 biliwn oddi £10.8 biliwn. Cynyddodd gwerthoedd allforion i wledydd y tu allan i'r UE gan £0.3 biliwn (4.1%) i £8.5 biliwn oddi £8.1 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch a allforiwyd o Gymru oedd 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£4.3 biliwn), ‘Olew’ (£2.5 biliwn) a ‘Chyfarpar Trafnidiaeth Arall’ (£2.5 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 48.7% o allforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad a allforiodd Cymru iddynt oedd yr Unol Daleithiau (£2.7 biliwn), yr Almaen (£2.6 biliwn), ac Iwerddon (£2.3 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 39.6% o allforion nwyddau Cymru.
Allforion heb 'Olew'
- Gwerth allforion nwyddau heb olew i Gymru oedd £16.6 biliwn, cynnydd o £0.4 biliwn (2.7%) o £16.2 biliwn.
- Roedd cyfaint yr allforion nwyddau heb olew i Gymru yn 2.7 biliwn kg, gostyngiad o 0.2 biliwn kg (7.4%) o 3.0 biliwn kg.
- Gwerth allforion nwyddau heb olew i'r DU oedd £336.3 biliwn, cynnydd o £6.5 biliwn (2.0%) o £329.2 biliwn.
- Roedd cyfaint yr allforion nwyddau heb olew i'r DU yn 72.9 biliwn kg, cynnydd o 0.7 biliwn kg (0.9%) o 72.2 biliwn kg.
Mewnforion
- Profodd holl wledydd y DU gynnydd yng ngwerth mewnforion, ac eithrio Cymru a ostyngodd.
- Gwerth mewnforion nwyddau i Gymru oedd £20.4 biliwn, gostyngiad £0.9 biliwn (4.4%) o £21.3 biliwn. Cafodd hyn ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad o £0.8 biliwn yng ngwerth mewnforion 'Olew'.
- Cyfaint y mewnforion nwyddau i Gymru oedd 16.0 biliwn kg, gostyngiad o 0.7 biliwn kg (3.9%) o 16.7 biliwn kg.
- Gwerth mewnforio nwyddau i'r DU oedd £601.9 biliwn, cynnydd o £21.4 biliwn (3.7%) o £580.5 biliwn.
- Roedd cyfaint y mewnforion nwyddau ar gyfer y DU yn 268.7 biliwn kg, gostyngiad o 1.4 biliwn kg (0.5%) o 270.1 biliwn kg.
- Cyfrifodd yr UE am 37.9% o werthoedd mewnforio Cymru o'i gymharu â 52.8% o werthoedd mewnforio'r DU.
- Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd yr UE £0.1 biliwn (0.9%) i £7.7 biliwn o £7.8 biliwn. Gostyngodd gwerthoedd mewnforio o wledydd y tu allan i'r UE £0.9 biliwn (6.4%) i £12.7 biliwn o £13.5 biliwn.
- Y 3 phrif gynnyrch a fewnforiwyd i Gymru oedd 'Olew' (£4.8 biliwn), 'Peiriannau ac Offer Cynhyrchu Pŵer' (£3.8 biliwn) ac 'Peiriannau Trydan, Offer a Chyfarpar' [troednodyn 3] (£1.0 biliwn). Roedd y cynhyrchion hyn yn cyfrif am 47.1% o fewnforion nwyddau Cymru.
- Y 3 phrif wlad y mewnforiodd Cymru ohonynt oedd yr Unol Daleithiau (£3.9 biliwn), Tsieina (£1.8 biliwn) a'r Iseldiroedd (£1.3 biliwn). Roedd y gwledydd hyn yn cyfrif am 33.8% o fewnforion nwyddau Cymru.
Mewnforion heb ‘Olew’
- Gwerth mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru oedd £15.6 biliwn, gostyngiad £0.1 biliwn (0.8%) o £15.7 biliwn.
- Cyfaint y mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i Gymru oedd 5.5 biliwn kg, gostyngiad o 0.9 biliwn kg (13.4%) o 6.4 biliwn kg.
- Gwerth mewnforio nwyddau heb ‘Olew’ i'r DU oedd £563.5 biliwn, cynnydd o £29.6 biliwn (5.5%) o £533.9 biliwn.
- Cyfaint y mewnforion nwyddau heb ‘Olew’ i’r DU oedd 187.2 biliwn kg, cynnydd o 2.6 biliwn kg (1.4%) o 184.7 biliwn kg.
Nodiadau
Mae'r cywiriadau heb eu trefnu a gyhoeddwyd ymlaen llaw (CThEF) bellach wedi'u cymhwyso i ystadegau masnach nwyddau dramor y DU a'r ystadegau masnach ranbarthol gan CThEF. O ganlyniad y cywiriadau hyn, cynyddodd gwerthoedd allforion a chyfeintiau 'Olew' (SITC33) a 'Nwy' (SITC 34). Effeithiodd mwyaf ar werthoedd allforion Llundain, Cymru, ac Heb ei dyrannu. Cynyddodd gwerthoedd allforion Cymru 2024 7.9%, sydd £1.4 biliwn yn fwy na'r cyfanswm £17.5 biliwn a gyhoeddwyd am 2024 yn flaenorol. Mae'r cynnydd o £1.4 biliwn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn 'Olew' (£1.4 biliwn), gyda chynnydd llai mewn 'Nwy' (£17.5 miliwn). Ar gyfer Ionawr i fis Medi 2025, roedd y cynnydd tua 12.1% neu £1.5 biliwn yn fwy na'r cyfanswm cyfredol a gyhoeddwyd eisoes o £12.7 biliwn. Mae'r cynnydd o £1.5 biliwn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn 'Olew' (£1.5 biliwn), gyda chynnydd llai mewn 'Nwy' (£15.6 miliwn).
Fe all rhywfaint o'r data masnach a gynhwysir yn y bwletin hwn cael eu diwygio ychydig gan CThEF fel rhan o ddiwygiadau rheolaidd i'r data. Mae'r data diweddaraf ar gael ar wefan ‘UK Trade Info’ (CThEF).
Oherwydd newidiadau i'r ffordd y cesglir y data, mae'n bosibl y bydd rhywfaint o fasnach gwerth bach ychwanegol a ddyrannwyd yn flaenorol i wledydd a rhanbarthau bellach yn cael ei hadrodd o dan y categori 'Heb ei ddyrannu'. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad tebygol yn y DU i werthoedd allforio'r UE, a chyfanswm gwerthoedd allforio Cymru (a rhanbarthau eraill) o fis Ionawr 2021 ymlaen. Gellir darllen nodiadau manylach o'r effeithiau hyn yn Sylwadau CThEF ar yr ystadegau hyn.
Yn ein hymgynghoriad diweddar ar allbynnau ystadegol, cynigiom stopio gyhoeddi adroddiad blynyddol masnach nwyddau rhyngwladol Cymru (ond parhau gyda'r crynodeb chwarterol byr o bwyntiau allweddol i Gymru). Felly, rydym yn cymryd seibiant o gyhoeddi'r datganiad blynyddol tra byddwn yn dadansoddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Gall defnyddwyr barhau i gyrchu’r data mwyaf cywir ac amserol (sy'n ymgorffori pob diwygiad) trwy'r penawdau chwarterol a'r dangosfwrdd rhyngweithiol.
Gwybodaeth bellach
Mae'r data uchod yn ymwneud â masnach nwyddau rhyngwladol. Ar gyfer masnach ryngwladol mewn gwasanaethau, mae'r ystadegau swyddogol o dan datblygiad (2023) a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn awgrymu bod gwasanaethau yn cyfrif am oddeutu 30% o gyfanswm yr allforion yng Nghymru, ac 20% o gyfanswm y mewnforion.
Sylwch fod y dulliau yn wahanol rhwng ystadegau CThEM a'r SYG. Mae mwy o fanylion ar gael am y gwahaniaethau allweddol hyn yn 'Overseas trade in goods statistics methodology and quality report' (adran 8.4) (CThEM).
Mae'r prif ganlyniadau a'r cyfrifiadau busnes yn cael eu cyhoeddi'n chwarterol ac maent ar gael ar wefan CThEM ‘Gwybodaeth Masnach y DU’ ac ystadegau masnach nwyddau y DU (CThEM), ochr yn ochr â'n dangosfwrdd rhyngweithiol ein hunain.

