Neidio i'r prif gynnwy

Data canlyniadau dysgwyr fesul lefel astudio, math yr amcan dysgu, ardal pwnc/sector a nodweddion y dysgwr ar gyfer Awst 2022 i Orffennaf 2023.

Prentisiaethau

  • Roedd cyfradd lwyddiant prentisiaethau yn 72% yn 2022/23. Mae hyn yn gynnydd o 5 pwynt canran o'i gymharu â 2021/22 ond yn is na'r lefelau a welwyd cyn y pandemig.
  • Y gyfradd lwyddiant ar gyfer prentisiaethau lefel sylfaen a ddangosodd yr adferiad cryfaf, gan gynyddu o 61% i 72%. 
  • Ni chafwyd adferiad yn y gyfradd lwyddiant ar gyfer prentisiaethau uwch.
  • Yr hyn a oedd wrth wraidd y diffyg cynnydd yng nghyfradd lwyddiant y prentisiaethau uwch oedd gostyngiad o 8% yn y gyfradd lwyddiant ar gyfer Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, a oedd yn gwrthbwyso cynnydd o 2% ar draws meysydd pwnc eraill.
  • Roedd cynnydd mawr yn y gyfradd lwyddiant gyffredinol yn 2022/23 o'i gymharu â 2021/22 ym meysydd pwnc Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a'r sector Gwallt a Harddwch.
  • Roedd dysgwyr a oedd yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn yr ysgol uwchradd 9 pwynt canran yn llai tebygol o fod yn llwyddiannus yn eu prentisiaethau o’u cymharu â dysgwyr nad oeddent yn gymwys.
  • Roedd cyfraddau llwyddiant rhwng gwahanol feysydd pwnc sectorau'n amrywio o 63% ar gyfer Lletygarwch ac Arlwyo i 87% ar gyfer y Celfyddydau, y Cyfryngau a Chyhoeddi. Mae amrywioldeb cyfraddau llwyddiant rhwng gwahanol feysydd pwnc sectorau'n parhau i fod yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig.

Dysgu oedolion

  • Roedd cyfradd llwyddiant cyrsiau dysgu oedolion yn 84% 2022/23, cynnydd o 3 phwynt canran o gymharu â 2021/22.
  • Roedd cynnydd o 45% yn nifer y gweithgareddau dysgu asesadwy a ddarparwyd yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol yn 2022/23 o'i gymharu â 2021/22, tra bod cyfradd llwyddiant y gweithgareddau hyn wedi gostwng 3%.
  • Addysg a Hyfforddiant, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a Gwyddoniaeth a Mathemateg welodd y cynnydd mwyaf yn eu cyfraddau llwyddiant yn 2022/23 o'i gymharu â 2021/22.

Nodiadau

Ni chynhyrchwyd y mesurau canlyniadau safonol ym mlynyddoedd academaidd 2019/20 a 2020/21 oherwydd y pandemig. Cyhoeddwyd adroddiadau arbennig ar Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Adroddiadau

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion: Awst 2022 i Orffennaf 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 940 KB

PDF
940 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau a dysgu oedolion: Awst 2022 i Orffennaf 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 30 KB

ODS
30 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiadau canlyniadau dysgwyr ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion, Awst 2022 i Gorffennaf 2023 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 217 KB

XLSX
217 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer prentisiaethau, Awst 2022 i Gorffennaf 2023 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 83 KB

XLSX
83 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Catherine Singleton

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.