Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Owen Lloyd

Mae Owen Lloyd yn brentis sy’n ymdrechu i ddatrys y problemau llifogydd sy’n poeni pobl Rhondda Cynon Taf a’i uchelgais yw rhagori fel peiriannydd sifil.

Mae Owen, 23, o Goed y Cwm, Pontypridd, yn gweithio i’r Tîm Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Enillodd ragoriaeth yn ei gwrs BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yng Ngholeg Pen-y-bont, a’i nod yn y pen draw yw bod yn Beiriannydd Sifil Siartredig.

Enillodd Owen Ysgoloriaeth ICE Quest a dyfarnwyd ef yn Brentis y Flwyddyn gan y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus ym maes Priffyrdd a Goleuo Strydoedd fis Hydref diwethaf.

Dywedodd Owen:

“Rwy’n gweithio i’r safon uchaf er mwyn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i fy nghyflogwr ac i’r cyhoedd sy’n dibynnu ar fy ngwaith i i’w cadw nhw a’u teuluoedd yn ddiogel mewn stormydd.”