Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025: amddifadedd sy’n ymwneud â phlant
Dadansoddiad o ddata dangosydd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 i archwilio patrymau amddifadedd ymhlith plant 0 i 15 oed.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw mesur swyddogol amddifadedd cymharol mewn ardaloedd bach yng Nghymru. Mae MALlC 2025 yn cyfuno 54 o ddangosyddion ar draws 8 maes amddifadedd ar gyfer 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau).
Mae MALlC yn nodi'r ardaloedd mwyaf difreintiedig ond nid yw'n mesur amddifadedd unigol, gan fod pob ardal yn cynnwys cymysgedd o bobl ac amgylchiadau. Mae llawer o bobl freintiedig yn byw mewn ardaloedd difreintiedig iawn, ac mae llawer o bobl ddifreintiedig yn byw mewn ardaloedd cymharol lai difreintiedig.
Mae'r erthygl ystadegol hon yn archwilio dangosyddion MALlC 2025 yn ymwneud â phlant o feysydd incwm, iechyd, addysg a mynediad at wasanaethau. Mae'r rhain yn cynnwys:
- plant 0 i 15 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm
- pwysau geni isel
- absenoldeb cyson mewn ysgolion cynradd ac uwchradd
- Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer pynciau craidd
- mynediad at ddarparwyr gofal plant, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd
Gyda'i gilydd, mae'r dangosyddion hyn yn rhoi mewnwelediad i wahanol agweddau ar fywydau plant ac yn helpu i nodi meysydd lle gall plant brofi sawl math o anfantais. Yma, rydym yn cyflwyno detholiad o'r dadansoddiad, a all ddarparu tystiolaeth i lywio polisi sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Bydd hyn yn helpu i ddeall anghydraddoldebau mewn tlodi, addysg, iechyd a llesiant ac yn cefnogi camau i wella deilliannau i blant gan ddefnyddio data MALlC, ond mae rhagor yn bosibl. Gall mewnwelediadau o'r data helpu i lywio polisïau a rhaglenni â'r nod o roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn, gwella canlyniadau addysgol, a chefnogi camau penodol i leihau anfantais a hyrwyddo cyfle cyfartal.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y mynegai a'r dangosyddion yng nghanllawiau MALlC 2025 a'r adroddiad technegol. Mae data ar gyfer MALlC wedi'u cyhoeddi ar StatsCymru, ac yn adroddiad canlyniadau MALlC 2025.
Mae rhywfaint o'r gwaith dadansoddi yn yr erthygl hon yn cael ei gyflwyno ar lefel Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol neu awdurdodau lleol i wella dibynadwyedd lle gall meintiau poblogaethau bach arwain at ganlyniadau mwy anwadal. Mae'r rhan fwyaf o ddangosyddion yn seiliedig ar gyfartaleddau aml-flwyddyn.
Prif bwyntiau
- Roedd tua 212,000 o blant rhwng 0 a 15 oed yn byw mewn amddifadedd incwm ar ddiwedd mis Mawrth 2024; mae hyn yn cynrychioli tua 39% o'r holl blant yn y grŵp oedran hwn.
- Roedd ardaloedd â lefelau uchel o blant yn byw mewn amddifadedd incwm yn fwy tebygol o brofi amddifadedd ar draws dangosyddion eraill yn ymwneud â phlant, gan gynnwys pwysau geni isel, absenoldeb o'r ysgol a chyrhaeddiad addysgol.
- Roedd 41% o ddisgyblion cynradd a 53% o ddisgyblion uwchradd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn absennol yn gyson, o gymharu ag 13% a 22% yn y drefn honno yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
- Roedd y tebygolrwydd o blant yn byw mewn amddifadedd incwm yn uwch ar y cyfan mewn ardaloedd trefol nag ardaloedd gwledig, tra bod mynediad gwael at ofal plant ac ysgolion ar y cyfan yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwledig.
Roedd y cyfraddau uchaf o amddifadedd ar gyfer gwahanol ddangosyddion wedi'u gwasgaru ar draws gwahanol awdurdodau lleol.
- Blaenau Gwent oedd â'r lefelau uchaf o amddifadedd incwm plant, gan gynnwys y gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig.
- Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, a Wrecsam oedd â'r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig am bwysau geni isel.
- Ar gyfer sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 (CA4), Castell-nedd Port Talbot a Sir Ddinbych oedd â'r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig a'r sgoriau pwyntiau CA4 cyfartalog isaf.
- O ran absenoldeb cynradd ac uwchradd, Castell-nedd Port Talbot oedd â'r gyfran uchaf o ardaloedd bach yn y 10% mwyaf difreintiedig.
- Ceredigion oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig o ran mynediad at ysgolion cynradd (47%) a darparwyr gofal plant (44%), tra bod Powys â'r gyfran uchaf o ran mynediad at ysgolion uwchradd (35%).
Plant 0 i 15 oed sydd mewn amddifadedd incwm
Caiff plant eu cyfrif fel plant sy'n byw mewn amddifadedd incwm os ydynt yn blentyn dibynnol i oedolyn sy'n cael budd-daliadau cysylltiedig ag incwm neu gredydau treth neu'n geisiwr lloches a gefnogir. Gweler adroddiad technegol MALlC 2025 i gael rhagor o fanylion.
Ledled Cymru roedd tua 212,000 o blant rhwng 0 a 15 oed yn byw mewn amddifadedd incwm ar ddiwedd mis Mawrth 2024. Mae hyn yn cynrychioli 39% o'r holl blant yn y grŵp oedran hwn. Mewn cymhariaeth, roedd tua 25% o gyfanswm y boblogaeth yn byw mewn amddifadedd incwm, sy'n golygu bod plant yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyfan o fod yn byw mewn amddifadedd incwm.
Fel y manylir yn yr adroddiad technegol, nid oes modd cymharu'r dangosydd amddifadedd incwm ar gyfer MALlC 2025 yn uniongyrchol â MALlC 2019 oherwydd newidiadau i fethodoleg y dangosydd, cwmpas y system fudd-daliadau a'r meini prawf cymhwystra. Mae'r newidiadau hyn yn effeithio ar lefel y cyfraddau a gofnodwyd ac yn golygu y dylid osgoi cymharu newidiadau'n fanwl dros amser.
Fodd bynnag, mae'r data yn awgrymu cynnydd sylweddol yng nghyfran y bobl sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n byw mewn amddifadedd incwm ers MALlC 2019. O fewn y patrwm eang hwn, mae'r cynnydd yn fwy ar gyfer plant 0 i 15 oed nag ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol:
- rhwng MALlC 2019 a MALlC 2025, cynyddodd cyfran y boblogaeth sy'n byw mewn amddifadedd incwm tua 9 pwynt canran, o 16% i 25%
- dros yr un cyfnod, cynyddodd cyfran y plant 0 i 15 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm tua 14 pwynt canran, o 25% i 39%.
Ffigur 1: canran y bobl a'r plant rhwng 0 a 15 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm, MALlC 2019 a MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 1: siart far sy'n dangos bod gan blant rhwng 0 a 15 oed gyfraddau uwch o amddifadedd incwm na chyfanswm y boblogaeth yn 2019 a 2025. Cynyddodd amddifadedd incwm rhwng 2019 a 2025 ar gyfer y ddau grŵp, gyda chynnydd mwy i blant.
Roedd cysylltiad agos rhwng amddifadedd incwm sy'n effeithio ar blant ac amddifadedd cyffredinol. Roedd tua 74% o blant 0 i 15 oed sy'n byw yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn seiliedig ar amddifadedd cyffredinol MALlC yn byw mewn amddifadedd incwm. Fodd bynnag, roedd amddifadedd incwm plant yn bresennol ar draws pob lefel o amddifadedd. Roedd tua 11% o blant sy'n byw yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig yn byw mewn amddifadedd incwm.
Ffigur 2: canran y plant 0 i 15 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm yn ôl degradd amddifadedd cyffredinol MALlC, MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 2: siart far sy'n dangos bod cyfran y plant rhwng 0 a 15 oed sy'n byw mewn amddifadedd incwm yn gostwng yn raddol ar draws degraddau amddifadedd MALlC, o oddeutu tri chwarter y plant yn y degradd mwyaf difreintiedig i oddeutu un rhan o ddeg yn y degradd lleiaf difreintiedig.
Nid oedd amddifadedd incwm plant wedi'i ddosbarthu'n gyfartal. Blaenau Gwent oedd yr awdurdod lleol gyda'r crynodiad uchaf o ardaloedd sy'n profi amddifadedd incwm plant, gyda'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y degradd mwyaf difreintiedig (22%) a'r gyfran uchaf o blant sy'n profi amddifadedd incwm (49%). Mewn cyferbyniad, nid oedd gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd yn y degradd mwyaf difreintiedig, gyda'r gyfran isaf o blant yn profi amddifadedd incwm (24%).
Mae ffigur 3 yn dangos bod amrywiad sylweddol hefyd mewn amddifadedd incwm plant o fewn awdurdodau lleol. Dangosodd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd yr amrywiad mwyaf rhwng ardaloedd, gan ddangos gwahaniaethau mwy o ran amddifadedd incwm plant o fewn yr awdurdodau lleol hynny.
Ffigur 3: dosbarthiad cyfraddau amddifadedd incwm plant ar draws ACEHIau yn ôl awdurdod lleol, MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 3: mae'r siart yn cymharu cyfraddau amddifadedd incwm plant ar draws ACEHIau ym mhob awdurdod lleol. Trefnir yr awdurdodau lleol yn ôl eu cyfradd nodweddiadol (canolrifol). Mae’r llinell wen y tu mewn i bob blwch yn dangos y gyfradd ganolrifol. Mae’r blwch yn cynnwys hanner canol yr ACEHIau, ac mae’r wisgeri yn dangos y cyfraddau isaf ac uchaf. Mae lled y blwch a hyd y wisgeri yn dangos faint mae cyfraddau amddifadedd incwm plant yn amrywio rhwng ACEHIau o fewn awdurdod lleol. Mae blychau lletach a wisgeri hirach yn dangos bwlch mwy rhwng yr ACEHIau mwyaf a lleiaf difreintiedig. Mae blychau culach a wisgeri byrrach yn dangos bwlch llai.
Ar draws Cymru, roedd cyfradd ganolrifol amddifadedd incwm plant ar gyfer ACEHIau yn tua 34%, gyda hanner canol ACEHIau yn amrywio o tua 21% i 50%. Castell-nedd Port Talbot, Blaenau Gwent, Torfaen a Merthyr Tudful oedd â'r cyfraddau canolrifol uchaf o amddifadedd incwm plant, gyda mwy na dau o bob pump o blant yn amddifad. Mewn cyferbyniad, Sir Fynwy oedd â'r gyfradd ganolrifol isaf, sef llai nag un o bob pump o blant.
Roedd patrymau amddifadedd incwm plant hefyd yn amrywio yn ôl math o anheddiad. Roedd amddifadedd incwm plant yn uwch ar y cyfan mewn ardaloedd trefol nag ardaloedd gwledig. Ardaloedd trefol ymhellach o dref neu ddinas ganolig oedd â'r gyfradd uchaf o amddifadedd incwm plant (44%), tra bod ardaloedd gwledig llai yn agosach at dref neu ddinas ganolig â'r gyfradd isaf (25%). Yn gyffredinol, roedd y gyfradd yn 41% mewn ardaloedd trefol, o gymharu â 37% mewn ardaloedd gwledig mwy a 27% mewn ardaloedd gwledig llai.
Roedd y 10 AGEHI fwyaf difreintiedig wedi'u lleoli ar draws pum awdurdod lleol: Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Casnewydd a Wrecsam, gyda Chaerdydd yn cyfrif am 4 o'r 10 uchaf. Roedd gan 4 AGEHI gyfraddau amddifadedd incwm plant o 100%:
- Gorllewin Aberpennar 2, Rhondda Cynon Taf
- Gorllewin y Rhyl 2, Sir Ddinbych
- Grosvenor 2, Wrecsam
- Cathays 9, Caerdydd (mae gan yr AGEHI hon lai na 100 o blant rhwng 0 a 15 oed)
Mewn cyferbyniad, Llys-faen a'r Ddraenen 2 yng Nghaerdydd oedd â'r gyfradd isaf o amddifadedd incwm plant, sef 0.7%.
Pwysau geni isel
Mae pwysau geni isel yn cael ei ddosbarthu yn MALlC 2025 fel genedigaeth fyw unigol pan fo'r babi yn pwyso llai na 2.5kg. Gall cael pwysau geni isel achosi problemau iechyd i blant yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae’r data hyn yn unol â’r Dangosydd Cenedlaethol ar gyfer pwysau geni isel sy’n helpu i fesur cynnydd o’i gymharu â nodau llesiant pwysig o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015. Y ffigurau sydd wedi'u cynnwys yn MALlC 2025 yw'r cyfartaledd 10 mlynedd rhwng 2015 a 2024.
Mae'r risg o bwysau geni isel yn gysylltiedig ag ystod o ffactorau economaidd-gymdeithasol, demograffig a rhai yn ymwneud â beichiogrwydd a'r fam.
Yn gyffredinol, cafodd 5.3% o fabanod eu geni gyda phwysau geni isel, sy'n gyfystyr â chyfartaledd blynyddol o tua 1,500 o fabanod.
Ar lefel awdurdod lleol, Bro Morgannwg oedd â'r gyfran isaf o fabanod a gafodd eu geni gyda phwysau geni isel, sef 3.8%. Merthyr Tudful oedd â’r gyfran uchaf o fabanod a anwyd â phwysau geni isel, sef 6.7%.
Roedd cyfraddau pwysau geni isel yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Mae'r dadansoddiad canlynol yn archwilio sut roedd pwysau geni isel yn wahanol yn ôl amddifadedd a daearyddiaeth.
Roedd cysylltiad agos rhwng pwysau geni isel ac amddifadedd cyffredinol. Y gyfradd pwysau geni isel canolrifol oedd 7.4% yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, o gymharu â 3.4% yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig, gwahaniaeth o 4 pwynt canran. Mae'r gyfradd yn gyffredinol wedi gostwng wrth i lefelau amddifadedd leihau ar y cyfan, gan ddangos bod babanod sy'n byw mewn cymunedau mwy difreintiedig yn fwy tebygol o gael pwysau geni isel. Fodd bynnag, arhosodd cyfraddau pwysau geni isel yn uwch na 4% ar draws y rhan fwyaf o'r degraddau amddifadedd, gan ddangos nad oedd pwysau geni isel wedi'i gyfyngu i'r cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn awgrymu bod pwysau geni isel yn gysylltiedig ag amddifadedd ardal ond hefyd yn debygol o gael ei ddylanwadu gan ffactorau eraill.
Ffigur 4: cyfran y babanod sydd wedi'u geni gyda phwysau geni isel rhwng 2015 a 2024, yn ôl degradd amddifadedd MALlC 2025
Disgrifiad o ffigur 4: siart far sy'n dangos bod cyfraddau pwysau geni isel yn uwch ar y cyfan mewn ardaloedd mwy difreintiedig ac yn is mewn ardaloedd llai difreintiedig. Mae cyfraddau cyfartalog yn uwch na chyfartaledd Cymru yn y degraddau mwyaf difreintiedig ac yn is na chyfartaledd Cymru yn y degraddau lleiaf difreintiedig.
Roedd cyfraddau pwysau geni isel yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru. Roedd gan y 10 AGEHG gyda'r lefelau uchaf gyfraddau pwysau geni isel o 8% o leiaf, yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru o 5.3%. Roedden nhw wedi eu gwasgaru ar draws 6 awdurdod lleol. Roedd pedwar wedi’u lleoli yn Rhondda Cynon Taf, 2 yn Sir Ddinbych. Roedd gan Flaenau Gwent, Conwy, Merthyr Tudful a Wrecsam un ACGC yr un yn y 10 uchaf.
Roedd gan yr ardal â’r safle uchaf, Parc Caia, Wrecsam, gyfradd tua 8 gwaith yn uwch na chyfradd rhai o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Yr ACEHGau gyda'r cyfraddau uchaf o bwysau geni isel oedd:
- Parc Caia, Wrecsam (12%)
- Gogledd y Rhyl, Sir Ddinbych (9.2%)
- Tylorstown, Rhondda Cynon Taf (9.1%)
- Gogledd Bae Colwyn, Conwy (8.9%)
- Aberpennar, Rhondda Cynon Taf (8.8%)
Er bod yr adran hon yn tynnu sylw at yr ardaloedd gyda'r cyfraddau uchaf, gellir archwilio cyfraddau pwysau geni isel ar gyfer pob AGEHG yng Nghymru yn: Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 ar StatsCymru.
Absenoldeb o'r ysgol - cynradd ac uwchradd
Roedd cysylltiad cryf rhwng absenoldeb cyson ag amddifadedd ardal. Mae'r dangosyddion yn mesur canran y disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a gollodd 10% neu ragor o sesiynau ysgol, ar sail cyfartaledd 2 flynedd o flynyddoedd academaidd (Medi i Awst) 2022 i 2023 a 2023 i 2024.
Ledled Cymru, roedd y gyfradd absenoldeb cyson yn 27% ar gyfer disgyblion cynradd a 39% ar gyfer disgyblion uwchradd. Felly, roedd absenoldeb cyson ymhlith disgyblion uwchradd yn sylweddol uwch nag ymhlith disgyblion cynradd.
Cynyddodd absenoldeb cyson yn raddol wrth i amddifadedd gynyddu. Roedd absenoldeb cyson yn y cynradd yn amrywio o 41% yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig i 13% yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Roedd absenoldeb cyson yn yr uwchradd yn amrywio o 53% i 22%. Roedd absenoldeb cyson yn yr uwchradd yn uwch nag absenoldeb cyson yn y cynradd ym mhob degradd amddifadedd.
Roedd y bwlch rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn 28 pwynt canran ar gyfer disgyblion cynradd ac yn 31 pwynt canran ar gyfer disgyblion uwchradd, sy'n dangos anghydraddoldebau arbennig o fawr o ran presenoldeb ymhlith plant oedran uwchradd. Roedd plant sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn absennol yn gyson na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ffigur 5: canran y disgyblion sy'n colli 10% neu ragor o sesiynau ysgol yn ôl degradd amddifadedd cyffredinol MALlC, ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, 2022/23 a 2023/24
Disgrifiad o ffigur 5: siart bariau wedi'u grwpio sy'n dangos bod cyfraddau absenoldeb ysgolion cynradd ac uwchradd yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig ac yn is mewn ardaloedd llai difreintiedig. Mae absenoldeb yn gostwng yn raddol ar draws degraddau MALlC, gyda'r cyfraddau uchaf yn y degradd mwyaf difreintiedig a'r cyfraddau isaf yn y degradd lleiaf difreintiedig. Mae absenoldeb mewn ysgolion uwchradd yn uwch nag absenoldeb mewn ysgolion cynradd ym mhob degradd amddifadedd.
Roedd amrywiad sylweddol mewn absenoldeb cyson rhwng ardaloedd. Ar gyfer disgyblion cynradd, roedd y cyfraddau yn amrywio o 4% yn yr Eglwys Newydd a Thongwynlais 6, Caerdydd i 59% yn Cathays 12, hefyd yng Nghaerdydd.
Ar gyfer disgyblion uwchradd, roedd y cyfraddau yn amrywio o 7% yn Radur 2, Caerdydd i 74% yng Nghwm Clydach 1, Rhondda Cynon Taf. Ar draws y ddau gam, roedd patrymau presenoldeb yn amrywio'n sylweddol rhwng ardaloedd, gan gynnwys o fewn yr un awdurdod lleol.
Sgôr pwyntiau cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer pynciau craidd
Mae dangosydd Cyfnod Allweddol 4 (CA4) yn mesur sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion ym Mlwyddyn 11 yn seiliedig ar y graddau a gafwyd mewn TGAU Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf, mathemateg a gwyddoniaeth, neu gymwysterau cyfatebol. Defnyddir cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar y blynyddoedd academaidd 2022 i 2023 a 2023 i 2024 i leihau effaith niferoedd bach o ddisgyblion mewn ardaloedd unigol.
Roedd cysylltiad cryf rhwng deilliannau CA4 ag amddifadedd. Ledled Cymru, y sgôr CA4 cyfartalog wedi'i bwysoli oedd 115 pwynt. Roedd ardaloedd â sgoriau CA4 is yn fwy tebygol o brofi lefelau uwch o amddifadedd.
Ffigur 6: sgôr pwyntiau Cyfnod Allweddol 4 cyfartalog ar gyfer pynciau craidd yn ôl degradd amddifadedd cyffredinol MALlC, 2022/23 a 2023/24
Disgrifiad o ffigur 6: siart far sy'n dangos bod sgoriau pwyntiau Cyfnod Allweddol 4 cyfartalog yn cynyddu wrth i amddifadedd leihau. Mae'r sgôr cyfartalog yn codi o oddeutu 96 pwynt yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig i oddeutu 135 pwynt yn y 10% o ardaloedd lleiaf difreintiedig, gwahaniaeth o bron i 40 pwynt. Mae'r sgoriau cyfartalog yn is na chyfartaledd Cymru yn y degraddau mwyaf difreintiedig ac yn uwch na chyfartaledd Cymru yn y degraddau lleiaf difreintiedig.
Roedd gwahaniaethau amlwg rhwng awdurdodau lleol hefyd. Sir Fynwy oedd â'r sgôr CA4 cyfartalog wedi'i bwysoli uchaf, sef 125 pwynt, a Sir Ddinbych (107 pwynt), Castell-nedd Port Talbot (108 pwynt) a Blaenau Gwent (108 pwynt) oedd yr isaf.
Roedd sgoriau CA4 yn amrywio'n sylweddol rhwng ardaloedd bach. Roedd y sgôr cyfartalog uchaf yn Plymouth (Bro Morgannwg) 3, sef 159 pwynt, gyda'r isaf yng Nghaerau (Pen-y-bont ar Ogwr) 2, sef 63 pwynt. Mae hyn yn cynrychioli bwlch o 96 pwynt rhwng yr ardaloedd a sgoriodd uchaf ac isaf.
Ar gyfer sgôr pwyntiau CA4 cyfartalog, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig, sef 24% o ACEHIau. Mewn cyferbyniad, nid oedd gan Sir Fynwy a Cheredigion unrhyw ACEHIau o fewn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd deilliannau CA4 is yn fwyaf cyffredin ym Merthyr Tudful, lle roedd tua 72% o ACEHIau yn hanner mwyaf difreintiedig Cymru ar gyfer sgôr pwyntiau CA4 cyfartalog, o gymharu â thua 22% yn Sir Fynwy. Mae hyn yn tynnu sylw at amrywiad sylweddol rhwng awdurdodau lleol o ran crynodiad a dosbarthiad cyrhaeddiad CA4 is.
Mynediad i ysgolion cynradd ac uwchradd a darparwyr gofal plant
Mae mynediad at ysgolion a darparwyr gofal plant yn rhan o faes mynediad at wasanaethau MALlC 2025. Mae'r is-faes mynediad ffisegol yn cynnwys dangosyddion sy'n mesur amseroedd teithio cyfartalog i'r ysgol gynradd, ysgol uwchradd a'r darparwr gofal plant cofrestredig agosaf.
Ar gyfer MALlC 2025, mae amseroedd teithio yn seiliedig ar fesurau cyfunol, wedi'u cyfrifo fel cyfartaledd wedi'i bwysoli o amseroedd teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, gan ddefnyddio data o Gyfrifiad 2021 ar berchnogaeth ceir a nifer yr oedolion 17 oed a hŷn. Mae hyn yn darparu un mesur o hygyrchedd cyffredinol tra'n adlewyrchu mynediad drwy wahanol ddulliau trafnidiaeth. Gweler adroddiad technegol MALlC i gael rhagor o fanylion.
Ychwanegwyd darparwyr gofal plant ar gyfer MALlC 2025 ac maent yn cynnwys gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, megis gofal dydd a gofal sesiynol, crèches, gofal y tu allan i'r ysgol a gwarchodwyr plant.
Ffigur 7: map o'r ACEHIau wedi'u cysgodi yn ôl grŵp mynediad at ysgolion cynradd, MALlC 2025
© Hawlfraint y Goron 2026. Cartograffeg. Llywodraeth Cymru.
Disgrifiad o ffigur 7: mae'r map yn dangos bod mynediad gwael at ysgolion cynradd yn grynodedig mewn rhannau gwledig o'r Canolbarth, y Gorllewin a'r Gogledd-orllewin. Mae gwell mynediad yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol a mwy poblog, yn enwedig yn y De a'r Gogledd-ddwyrain.
Dangosodd mynediad at ysgolion cynradd wahaniaethau sylweddol rhwng awdurdodau lleol. Ceredigion oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig (47%). Mewn cyferbyniad, Caerdydd oedd â'r gyfran isaf o ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig (0.5%). Bro Morgannwg oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y degradd lleiaf difreintiedig (18%).
Gwelwyd patrwm tebyg ar gyfer ysgolion uwchradd. Powys oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig (35%). Mewn cyferbyniad, nid oedd gan Dorfaen, Bro Morgannwg na Blaenau Gwent ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig. Sir Ddinbych oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y degradd lleiaf difreintiedig (19%).
Roedd mynediad at ddarparwyr gofal plant hefyd yn dangos gwahaniaethau amlwg rhwng awdurdodau lleol. Ceredigion oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig (44%). Mewn cyferbyniad, nid oedd gan Gaerdydd na Thorfaen unrhyw ACEHIau yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig. Bro Morgannwg oedd â'r gyfran uchaf o ACEHIau yn y degradd lleiaf difreintiedig (32%).
Ar lefel yr ACEHI, mae amseroedd teithio ar drafnidiaeth breifat yn amrywio'n sylweddol ledled Cymru, gan adlewyrchu gwahaniaethau lleol mewn mynediad at wasanaethau. Gwelir patrymau tebyg ar gyfer amseroedd teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r amseroedd teithio hiraf fel arfer mewn ardaloedd gwledig a'r rhai byrraf mewn ardaloedd trefol.
Yr ACEHIau gyda'r amseroedd teithio hiraf ar drafnidiaeth breifat oedd:
- Arthog, Llangelynnin a Llanegryn (Gwynedd) ar gyfer ysgolion cynradd (26.1 munud)
- Trefyclo 2 (Powys) ar gyfer ysgolion uwchradd (88.3 munud)
- Pencraig (Powys) ar gyfer darparwyr gofal plant (30.7 munud)
Mewn cyferbyniad, yr ACEHIau â'r amseroedd teithio byrraf ar drafnidiaeth breifat oedd:
- Uplands 9 (Abertawe) ar gyfer ysgolion cynradd (1.3 munud)
- Argoed (Sir y Fflint) 1 ar gyfer ysgolion uwchradd (1.9 munud)
- Allt-yr-ynn 6 (Casnewydd) ar gyfer darparwyr gofal plant (0.6 munud)
Mae'r gwahaniaethau hyn yn dangos yr amrywiad daearyddol sylweddol mewn mynediad at wasanaethau ledled Cymru.
Ar y cyfan, mae'r canlyniadau'n dangos patrwm cyson o fynediad gwael at ysgolion a darparwyr gofal plant mewn llawer o ardaloedd gwledig yng Nghymru, yn enwedig yng Ngheredigion a Phowys. Mae hyn yn gyson â'r berthynas ehangach rhwng hygyrchedd a gwledigrwydd a amlygwyd yn y cyhoeddiad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025: amddifadedd mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae ardaloedd sydd ymhellach o drefi a dinasoedd canolig yn tueddu i fod ag amseroedd teithio hirach oherwydd fod gwasanaethau yn fwy gwasgaredig. Mae mynediad at ysgolion a gwasanaethau gofal plant yn bwysig ar gyfer addysg a datblygiad plant a gall ddylanwadu ar allu rhieni i weithio, astudio neu ymgymryd â hyfforddiant.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Ceir rhagor o wybodaeth am ansawdd MALlC 2025 yn adran gwybodaeth gefndir adroddiad canlyniadau MALlC 2025, a disgrifir y fethodoleg yn fanwl yn yr adroddiad technegol.
Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol
Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:
- cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
- dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
- tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
- dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau
Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
- ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
- resymau eraill a nodir
Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa. Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag ystadegau swyddogol, ond gall fod yn seiliedig ar allbynnau ystadegau swyddogol, ac rydym wedi cymhwyso egwyddorion y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau cyn belled ag y bo modd yn ystod eu datblygu. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.
Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.
Manylion cyswllt
Ystadegau Cyfiawnder Cymdeithasol
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
