Neidio i'r prif gynnwy

1. Gwaith ar do presennol

Fel rheol, os ydych am atgyweirio neu ailorchuddio llai na 25 y cant o arwynebedd to ar oleddf neu do gwastad, ni fydd angen ichi gyflwyno cais o safbwynt rheoliadau adeiladu. Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth arnoch:

  • os byddwch yn gwneud newidiadau strwythurol
  • pe bai perfformiad y gorchudd newydd yn wahanol iawn i berfformiad y gorchudd presennol pe bai tân
  • os byddwch yn atgyweirio/ailorchuddio dros 25 y cant o arwynebedd y to; os felly, bydd yn rhaid gwella deunydd inswleiddio thermol y to fel rheol

Gallai tynnu unrhyw rai o elfennau to i ffwrdd neu'u newid effeithio ar y modd y mae'r to yn gweithio, a pheri iddo symud. Gallai unrhyw symudiadau achosi craciau yn y waliau, a pheri i'r to ddisgyn maes o law efallai. Wrth gyflawni gwaith ar unrhyw do, dylid sicrhau y bydd y to yn parhau i berfformio'n effeithiol heb symud.

Toeau presennol ar oleddf

Mae strwythur presennol y to sy'n creu'r atig yn cynnwys llawer o wahanol elfennau o goed, sy'n ffurfio'r goleddf cyffredinol. Mae pob elfen yn galluogi'r to i rychwantu'r adeilad cyfan, a chynnal y teils/gorchudd sydd arno'n ogystal â throsglwyddo'r llwythi (pwysau) a grëir gan unrhyw wynt ac eira i lawr i'r waliau. 

Isod rhestrir elfennau nodweddiadol to sydd ar oleddf:

  • Bwrdd crib – Mae'n creu pig y to, a chaiff y ceibrennau eu rhoi'n sownd bob ochr iddo.
  • Ceibrennau – Dyma'r prennau sy'n creu prif oleddf y to ac sy'n cynnal y teils a'r ais.
  • Tulathau – Maent yn ddarnau hir o bren a welir fel rheol hanner ffordd ar hyd y ceibrennau, ac maent yn gweithredu fel trawstiau i leihau rhychwant y ceibrennau (yr hyd na chynhelir).
  • Pwyslathau – Mae'r rhain yn cynnal y tulathau.  Cânt eu rhoi'n sownd ar ongl, gydag un pen wedi'i gysylltu â'r dulath a'r pen arall wedi'i gysylltu â wal sy'n cynnal llwyth, neu bren sy'n ymestyn ar draws distiau'r nenfwd. Dyma'r prennau lletraws a welir yn y to.
  • Clymau – Maent yn brennau sy'n atal y to rhag ymwasgaru, ac maent yn creu siâp ffrâm A.  Gall y clymau fod yn ddistiau'r nenfwd (fel y disgrifir isod) neu gallant fod hanner ffordd i fyny, uwchlaw'r dulath fel rheol, a chânt eu rhoi'n sownd yn llorweddol o'r blaen i'r cefn. (Maent yn gyffredin mewn tai teras.)
  • Distiau'r nenfwd – Gall y rhain weithredu fel clymau, ond maent yn cynnal y nenfwd islaw yn bennaf.  Fel rheol, byddant yn eithaf bach ac ni fyddant yn gallu cynnal llwyth unrhyw ystafell gyffredin a ddefnyddir mewn tŷ.

Toeau gwastad presennol

Mae toeau gwastad yn symlach, ac yn gyffredinol maent yn cynnwys distiau sy'n rhychwantu'r bwlch rhwng dwy wal. Caiff y rhain eu gorchuddio gan baneli, a orchuddir yn eu tro gan ffeltin neu haenau eraill sy'n ofynnol.

Rhagor o wybodaeth