Neidio i'r prif gynnwy

6. Rhagor o wybodaeth: ffenestri to

Ffenestri yw'r rhain a osodir mewn to ar oleddf neu do gwastad fel rheol er mwyn darparu mwy o olau i ystafelloedd neu fannau yn y cartref.  Yn gyffredinol bydd angen cymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu i osod ffenest to newydd, am y rhesymau canlynol:

  • Er mwyn gosod ffenest to, bydd angen i strwythur y to gael ei newid fel rheol i greu'r agorfa.
  • Bydd yn rhaid i'r to allu cynnal llwyth (pwysau) y ffenest to newydd. Os na all y to wneud hynny, bydd angen ei gryfhau.
  • Bydd angen i unrhyw ffenest to a osodir brofi bod ganddi ddigon o briodweddau o ran inswleiddio i beidio â cholli gwres, h.y. ei bod yn effeithlon o ran ynni.
  • Os yw'r ffenest to yn agos i ffin, bydd angen ystyried perfformiad y ffenest to o ran tân.

Strwythur

Yn gyffredinol, bydd angen torri un neu ragor o ddistiau neu geibrennau er mwyn gosod ffenest to mewn to. Bydd angen darparu cynhaliaeth newydd ar gyfer pennau'r ceibrennau/distiau a dorrwyd.  Caiff hynny ei gyflawni fel rheol drwy glymu dau bren wrth ei gilydd sy'n rhychwantu'r agorfa newydd ar y naill ochr a'r llall. Caiff y prennau dwbl hyn eu galw'n ddistiau fframio.

Efallai hefyd y bydd angen cryfhau'r ceibrennau neu'r distiau cyfagos y caiff y distiau fframio hyn eu rhoi'n sownd wrthynt, oherwydd byddant yn cynnal y llwyth a drosglwyddir o'r ceibrennau neu'r distiau a dorrwyd. Gellir gwneud hynny drwy roi ceibren neu ddist newydd yn sownd wrthynt, y bydd yn rhaid iddo fod o'r un hyd.

Y gallu i wrthsefyll y tywydd

Pan fydd y ffenest wedi'i gosod yn y to, bydd angen sicrhau bod yr ymylon (lle mae'r ffenest to yn cyffwrdd â'r to) a'r gwydr sydd yn y ffenest to'n gallu gwrthsefyll y tywydd.  Gwneir hynny fel rheol drwy ddefnyddio seliau plwm neu'r adnoddau masnachol a ddarperir gyda'r ffenest to.  Efallai y bydd gwneuthurwyr ffenestri to'n gallu rhoi cyngor ynghylch dulliau o wneud hynny.

Awyru

Bydd angen awyru'r ystafell y bydd y ffenest to yn ei gwasanaethu. Gellir gwneud hynny drwy ddefnyddio'r ffenest to i awyru'r ystafell yn gyflym ac yn araf.

Bydd yn rhaid ystyried dulliau o awyru'r gwagle(oedd) presennol yn y to, oherwydd bydd yn rhaid sicrhau o hyd bod aer yn gallu llifo o'r naill ben i'r llall.

Efallai y byddwch am ddefnyddio gosodwr sydd wedi'i gofrestru gyda'r cynllun person cymwys perthnasol ar gyfer adnewyddu ffenestri, drysau, ffenestri to neu oleuadau to.

Arbed ynni

Mae gofyn i anheddau ddefnyddio ynni'n effeithlon. Un dull o ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon yw cymryd camau i leihau'r gwres a gollir drwy'r gwydr mewn drysau a ffenestri. 

Os ydych yn bwriadu gosod drysau a ffenestri, dylech fod yn ymwybodol bod angen iddynt gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu o ran y gwres a all dreiddio drwy'r gwydr a'r fframiau, a fesurir ar ffurf gwerth 'U'.  Ni ddylai'r gwres a gollir fod yn fwy na'r gwerth 'U' hwn. I gael gwybodaeth am y gwerth 'U' uchaf a ganiateir, trowch at Ddogfen Gymeradwy L1B, Tabl 1 a 2.