Neidio i'r prif gynnwy

3. Rhagor o wybodaeth: prosiectau addasu

Wrth addasu ardaloedd yn lle y gellir byw ynddo, mae'n debygol y bydd angen archwilio'r to presennol er mwyn sicrhau ei fod yn ddigonol o ran ei allu i wrthsefyll y tywydd ac o ran inswleiddio thermol.

Os bwriedir leinio wyneb isaf y to (y nenfwd) â phlastrfwrdd, efallai hefyd y bydd angen awyru'r gwagle a fydd yn deillio o hynny.

Toeau gwastad

Bydd angen awyru'r to. Fel rheol, dylid gadael bwlch 50mm rhwng unrhyw ddeunydd inswleiddio ac wyneb isaf y to.  Yna, caiff y gwagle ei awyru o'r naill ben i'r llall drwy osod fentiau yn y bondo. 

Os bwriedir ailorchuddio'r to, gellir gosod y deunydd inswleiddio ar ben y distiau gan greu to 'dec cynnes' (gofynnwch i'r gwneuthurwyr am fanylion).  Bydd hynny'n osgoi'r angen i awyru, a gellir ailosod gorchudd y to ar ei ben.

Toeau ar oleddf

Gellir gosod y deunydd inswleiddio rhwng distiau'r nenfwd. Unwaith eto, bydd y trwch yn amrywio'n dibynnu ar y deunydd y dewiswch ei ddefnyddio.

Os nad oes gan y to nenfwd, gellir gosod y deunydd inswleiddio rhwng y ceibrennau a gellir awyru'r gwagle fel y disgrifir uchod. Os felly, dylid sicrhau bod teils awyru'n cael eu gosod yn y crib hefyd er mwyn sicrhau bod y gwagle'n cael ei awyru o'r naill ben i'r llall.