Neidio i'r prif gynnwy

8. Rhagor o wybodaeth: pwysau (llwyth)

Bydd y llwythi (pwysau) sydd i'w cynnal yn deillio o amryw ffynonellau:

  • Deunyddiau: sy'n cynnwys teils, ais, ffeltin, deunydd inswleiddio ac ati
  • Y tywydd: e.e. gwynt, eira a glaw
  • Gwaith cynnal a chadw: yr angen i unigolyn gael mynediad i'r to er mwyn atgyweirio eitemau.

Llwyth y gwynt

Dylai'r to gael ei glymu wrth y strwythur i'w atal rhag codi adeg gwyntoedd cryfion. Gwneir hynny fel rheol drwy ddarparu strapiau tua 1.2m o hyd sydd â phen cranciog, a roddir yn sownd wrth y walblad (y caiff prennau'r to eu rhoi'n sownd wrthi) ac a roddir yn sownd wedyn wrth haen fewnol y wal bob canol 2.0m.

Ymwasgaru

Bydd y prennau sy'n creu to ar oleddf (ceibrennau) bob amser am ymwasgaru.  Mae distiau'r nenfwd yn un ffordd o atal hynny, gan eu bod yn sownd wrth waelod y ceibrennau ac yn eu hatal rhag ymwahanu. Fodd bynnag, os ydych am dynnu'r nenfwd i ffwrdd ac am fedru gweld y to, dylid defnyddio system arall i glymu'r ceibrennau wrth y waliau a'u hatal rhag ymwasgaru. Efallai yr hoffech ofyn am gyngor gan beiriannydd os ydych yn bwriadu cael to y gellir ei weld, nad oes ganddo ddistiau nenfwd.