Neidio i'r prif gynnwys

Sut i greu a golygu'r cynnwys ar ffurf 'canllaw manwl: canllaw manwl' ar LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd i'w ddefnyddio

Cyn bod modd creu neu olygu cynnwys, mae angen i chi ddarllen a deall y canlynol:

Dylech hefyd gael fersiwn o'r cynnwys yn barod i'w gyhoeddi.  Fel arfer bydd canllaw manwl: canllaw manwl yn cael ei rannu'n adrannau gyda phenawdau.

Defnyddiwch ar gyfer:

  • ateb anghenion y defnyddiwr i gyflawni tasg benodol
  • cyfarwyddyd y mae dyletswydd ar y llywodraeth i’w ddarparu, nid cyngor cyffredinol
  • rhoi gwybodaeth er mwyn i’r defnyddiwr ddeall a rhoi cyd-destun i dasgau
  • arbenigwyr neu weithwyr proffesiynol fel arfer (ystyriwch ganllaw ar gyfer cynnwys llai manwl ar gyfer y cyhoedd)

Defnyddiwch y fformat yma ar gyfer cynnwys sy'n cael ei ddiweddaru'n aml, er enghraifft os yw'r broses i gwblhau tasg yn newid.

Os nad yw’ch cynnwys chi’n ffitio’r meini prawf uchod, mae’n debygol ei fod:

  • yn bapur polisi neu fanylion i gefnogi polisi
  • yn gasgliad o ddogfennau
  • yn gyhoeddiad canllawiau

Peidiwch â'i ddefnyddio:

  • i roi cyngor cyffredinol
  • i esbonio polisi llywodraeth
  • fel dewis olaf ar gyfer cynnwys nad yw’n ffitio i’r mathau eraill

Sut i'w greu

Creu canllaw manwl: canllaw manwl newydd

  1. Mewngofnodi i GOV.WALES a LLYW.CYMRU.
  2. Dewiswch y wedd Workbench yn LLYW.CYMRU (rhaid i chi ddechrau ar y wefan Saesneg).
  3. Dewiswch Create content.
  4. Dewiswch Detailed guide.
  5. Dewiswch Detailed guide  o'r maes Detailed Guide type.
  6. Llenwch y maes Title.
  7. Llenwch y maes Summary.
  8. Os ydych am rannu eich cynnwys yn adrannau, dewiswch Add Content section. Os wyt ti'n defnyddio Content section, yna rhaid i'r dudalen ddechrau gyda Content section.
  9. Llenwch y maes  Section title.
  10. Dewiswch Add Content a gludo cynnwys y dudalen i'r maes Content.
  11. Os ydych am ychwanegu mwy o adrannau cynnwys, ewch drwy gamau 7 i 9 eto.
  12. Tagiwch i'r Topics perthnasol.
  13. Os yw cynnwys wedi dod gan sefydliad, neu os yw'n sôn am sefydliad, llenwch y maes EXTERNAL ORGANISATIONS.
  14. Ychwanegwch hyd at 5 dolen fewnol INTERNAL LINKS (NODE) i gynnwys sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw manwl: canllaw manwl.
  15. Ni ddylech fel arfer lenwi'r maes INTERNAL LINKS (TERMS). Mae'r canllaw manwl: canllaw manwl naill ai'n berthnasol i bwnc felly wedi'i dagio iddo, neu'n cynnwys dolenni at dudalennau sy'n diwallu anghenion penodol defnyddwyr.
  16. Er mwyn creu dolen i wefan arall, dewiswch Add External Link.
  17. Dewiswch Save and Create New Draft.
  18. I ychwanegu’r Gymraeg, dewiswch TRANSLATE.
  19. Dewiswch Add o'r rhes gyda'r label Welsh.
  20. Diweddarwch pob maes gyda'r testun Cymraeg.
  21. I gadw newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  22. Unwaith i chi gyhoeddi'r Gymraeg a'r Saesneg, gwnewch yn siŵr bod y ddwy iaith yn gywir o ran gosodiad y dudalen, a bod y dolenni i gyd yn gweithio.

Golygu canllaw manwl: canllaw manwl presennol

  1. Dewch o hyd i'r canllaw manwl: canllaw manwl presennol naill ai drwy edrych ar y wefan i'r cyhoedd neu drwy ddewis Workbench yna All recent content. Rhaid i chi wneud hyn ar GOV.WALES gan fod yn rhaid i'r cynnwys Saesneg gael ei olygu'n gyntaf.
  2. Agorwch y canllaw manwl: canllaw manwl.
  3. Dewiswch EDIT DRAFT neu NEW DRAFT.
  4. Golygwch y canllaw manwl: canllaw manwl.
  5. Llenwch Revision log message (all languages) gan roi crynodeb byr o'r newidiadau.
  6. I arbed newidiadau heb eu gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Create New Draft (this translation). I arbed newidiadau a'i gwneud yn gyhoeddus, dewiswch Save and Publish (this translation).
  7. Gwnewch yr un newidiadau i'r fersiwn Cymraeg o’r canllaw manwl: canllaw manwl.

Yr elfennau sydd ar gael

Rhestr o ba elfennau sydd ar gael a sut i'w defnyddio os oes hawl gwneud hynny.

Paragraphs: content section

Defnyddiwch y paragraff adran cynnwys i dorri tudalennau hirach yn llai gyda phenawdau.

Paragraphs: content

Rhaid i chi ddefnyddio'r paragraff cynnwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynnwys y dudalen.

Paragraphs: accordion

I ychwanegu acordion, dilynwch y diffiniad acordion.

Paragraphs: related links

Dilynwch ddiffiniad dolenni perthnasol i ychwanegu dolenni perthnasol.

Paragraphs: call out message

Dim ond y negeseuon galw canlynol allwch chi ddefnyddio ar ganllaw manwl: canllaw manwl:

Paragraphs: contact details

Dilynwch y diffiniad manylion cyswllt i ychwanegu gwybodaeth gyswllt, er enghraifft, rhif ffôn.

Paragraphs: launcher

Peidiwch â defnyddio'r paragraff lansio ar ganllaw manwl: canllaw manwl.

Paragraphs: iFrame

I’w ddefnyddio’n unig i fewnblannu fideo YouTube.

Internal links (node)

Defnyddiwch i greu dolenni at tua 5 o dudalennau sydd â chysylltiad agos ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan y canllaw manwl: canllaw manwl.

Internal links (terms)

Dylech osgoi defnyddio dolenni mewnol ('terms'). Mae'r dolenni hyn yn rhaid at bynciau, ac fel arfer mae'r briwsion bara eisoes wedi dod o hyd i'r pwnc perthnasol.

External links

Dilynwch y diffiniad dolenni bach ochr i greu dolenni at gynnwys sydd â chysylltiad uniongyrchol ag anghenion y defnyddiwr sy'n cael eu diwallu gan eich cynnwys.