Stopio cosbi corfforol yng Nghymru
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddyn nhw.
Beth yw cosb gorfforol?
Mae sawl math o gosb gorfforol. Fel smacio, taro, slapio ac ysgwyd.
Ond mae mathau eraill hefyd. Mae’n amhosibl rhestru pob math o gosb gorfforol. Gall fod yn unrhyw ddull o gosbi plentyn gan ddefnyddio grym corfforol.
Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Tips defnyddiol i rieni
Dim ots beth yw oedran eich plant, mae ein plant bob amser angen ein help, ein cefnogaeth a'n harweiniad. Dyma rai tips defnyddiol i blant o 0-18 oed.
Tips defnyddiol i rieni babanod
Tips defnyddiol i rieni plant bach
Tips defnyddiol i rieni plant 4 i 7 oed
Tips defnyddiol i rieni plant 8 i 12 oed
Tips defnyddiol i rieni pobl ifanc yn eu harddegau
Tips i rieni plant o bob oed i ofalu am eich hun a rheoli straen
