Neidio i'r prif gynnwy

Ffynonellau gwybodaeth bellach

Eich cefnogi chi
Cyngor i'ch helpu gyda'r heriau dyddiol o fod yn rhiant
Cyngor i’ch helpu gyda heddiau dyddiol bod yn rhiant
Llyfrynnau a thaflenni gwybodaeth i gefnogi rhieni
Llyfrynnau a thaflenni gwybodaeth i gefnogi rhieni
Taflenni gwybodaeth i'ch helpu gydag ymddygiadau neu bryderon penodol.

Cymorth ar rianta

Action for children

Parent Talk Cymru - Sgwrs cyfrinachol am ddim gyda hyfforddwr rhianta cymwys.

https://parents.actionforchildren.org.uk/parent-talk-cymru/

Family Lives

Darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth ar bob agwedd ar rianta a bywyd teulu, gan gynnwys bwlio.

Llinell Gymorth am ddim ar 0808 800 2222

www.familylives.org.uk

NSPCC Cymru/Wales

Llinell Gymorth – 0808 800 5000 sy’n cynnig cyngor a chymorth. Gwasanaeth Cymraeg a Saesneg dwyieithog.

Ffôn testun 0808 100 1033

https://www.nspcc.org.uk/keeping-children-safe/our-services/nspcc-helpline/

Mae ymgyrch Camu’n ôl am 5 yr NSPCC hefyd yn cynnig awgrymiadau i helpu rhieni i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd heriol wrth fagu plant.

Cry-sis

Cynorthwyo teuluoedd sy’n cael trafferth i ymdopi pan mae eu babis yn crio drwy’r amser.

Ffôn 08451 228 669

www.cry-sis.org.uk

Stonewall

Mae gan yr elusen Stonewall tudalen pwrpasol i gefnogi rhieni i ddeall eu hawliau magu plant. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â nifer o lyfrynnau y gellir eu lawr lwytho a thaflenni gwybodaeth i rieni sy'n cynorthwyo plant LHDT.

https://www.stonewallcymru.org.uk/cy/cymorth-chyngor/hawliau-rhieni

Cyrsiau a llyfrau ar rianta

Mae tystiolaeth bod y cyrsiau rhianta canlynol wedi helpu teuluoedd i feithrin perthynas gryfach gyda’u plant a hyrwyddo ymddygiad da yn y teulu. Mae gan y sefydliadau sydd wedi datblygu’r cyrsiau hyn lyfrau a chyrsiau ar-lein a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Llyfrau’r Blynyddoedd Anhygoel

incredibleyears.com/category/books/

Llyfrau ac adnoddau Family Links

https://www.familylinks.org.uk/parent-zone

Cwrs ar-lein Family Links

www.netmums.com

Cyrsiau ar-lein Triple P

https://www.triplep-parenting.uk.net/uk/get-started/online-parenting-course-toddlers-to-tweens/

https://www.triplep-parenting.uk.net/uk/get-started/online-parenting-course-pre-teens-and-teens/

https://www.triplep-parenting.uk.net/uk/get-started/fear-less-triple-p-online/

Cymorth ar berthynas

Cam-drin Domestig

Ffoniwch y llinell gymorth ar 0808 8010 800 neu ewch i’r wefan Byw Heb Ofn am ragor o wybodaeth a ffynonellau cymorth

https://llyw.cymru/byw-heb-ofn

Relate Cymru

Cynnig cyngor, cwnsela perthynas a chymorth.

Ffôn 0300 003 2340

www.relate.org.uk/cymru

One Plus One

Darpariaeth ymyrryd yn gynnar i gynorthwyo perthynas sydd mewn trafferth drwy greu adnoddau sy’n helpu teuluoedd a gweithwyr rheng flaen i ddatrys problemau perthynas yn gynnar.

https://www.oneplusone.org.uk

Gwneud gwahanu yn llai cymhleth

Gwybodaeth i helpu rhieni sydd wedi gwahanu weithio gyda’i gilydd er lles eu plant. Mae’r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am bob math o bynciau gan gynnwys bod yn rhieni ar y cyd, cyfryngu a threfniadau gofal plant.

https://www.gov.uk/separation-divorce

Magu’r Plant Gyda’n Gilydd – Cefnogi plant wrth wahanu

Dyma ganllaw syml ac effeithiol a fwriedir i helpu rhieni sydd wedi gwahanu i ddeall beth mae ar eu plant ei angen fwyaf ganddynt a dysgu sut y gallent eu cefnogi drwy'r proses.

https://magurplantgydangilydd.llyw.cymru/

Parent Educational Growth Support (PEGS)

Yn cynnig cymorth i rieni sy’n dioddef camdriniaeth gan blentyn.

https://www.pegsupport.co.uk/

Cymorth i deuluoedd

City Hospice

Cymorth ar gyfer y rhai sy'n dioddef o gancr, eu teuluoedd a'u gofalwyr.

02920524150

www.gthc.org.uk

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd

Yw’r man cyntaf am gyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr.

0300 123 7777

http://www.ggd.cymru/home

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant (NCT)

Cynorthwyo teuluoedd drwy gyfnod beichiogrwydd, geni a rhianta cynnar.

0300 330 0770

http://www.nct.org.uk

Barnardo's Cymru

Cynnal nifer o brosiectau sydd â’r nod o gefnogi plant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

029 2049 3387

http://www.barnardos.org.uk/cym

Home-Start UK yng Nghymru

Cynorthwyo teuluoedd sydd â phlant ifanc.

029 2049 1181

www.home-start.org.uk/cymraeg

Gweithredu dros Blant

Cynnig gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.

029 2022 2127

https://www.actionforchildren.org.uk/our-work-and-impact/our-work-around-the-uk/ein-gwaith-yng-nghymru/

Gingerbread Wales

Cefnogi teuluoedd unig rieni yng Nghymru.

Ffôn 029 2047 1900, Llinell Gymorth 0808 802 0925

www.gingerbread.org.uk/content/462/Gingerbread-Wales

Both Parents Matter Cymru

Elusen sy’n cefnogi rhieni, tadau, mamau a neiniau a theidiau i gael cysylltiad personol a meithrin perthynas ystyrlon â phlant ar ôl i’r rhieni wahanu.

Llinell Gymorth 0333 050 6815 (10y.b – 7y.p dyddiau’r wythnos)

bpmuk.org

National Offenders’ Families Helpline

Yn darparu gwybodaeth ar yr hyn y gellir ei ddisgwyl os yw aelod o’ch teulu’n cael ei arestio a beth fydd yn digwydd os ydyn nhw’n cael eu cyhuddo.

Llinell Gymorth - 0808 808 2003 (rhadffôn: gan gynnwys ffonau symudol). Mae’r llinell gymorth ar agor 9am – 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 10am – 3pm dydd Sadwrn a dydd Sul.

www.offendersfamilieshelpline.org

Winston’s Wish

Elusen i gefnogi profedigaeth yn ystod plentyndod.

Llinell Gymorth am Ddim: 08088 020 021

www.winstonswish.org.uk/

Iechyd Meddwl

Llinell Gymorth C.A.L.L.

Llinell gymorth gyfrinachol sy’n cynnig cymorth emosiynol ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig.

Ffôn: 0800 132 737 (gwasanaeth 24 awr) – Llinell Gyngor a Gwrando Gymunedol - (neu anfonwch neges destun ‘help’ i 81066).

www.callhelpline.org.uk

Y Samariaid

Llinell gymorth gyfrinachol ar rhif rhadffôn 116 123 (gwasanaeth 24 awr cyfrinachol). Gallwch chi gysylltu i drafod unrhyw beth sy’n peri gofid i chi – gall fod yn broblem fawr neu fach.

www.samaritans.org

Mind

Gwybodaeth a chyngor ar bynciau amrywiol sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. Llinell Gymorth - 0300 123 3393 Llinellau ar agor 9am i 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am wyliau banc).

https://www.mind.org.uk/cy/mind-cymru/

Cyffuriau ac alcohol

DAN 24/7

Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol am ddim. Ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn yn cael ei rhedeg gan bobl sydd wedi’u hyfforddi’n llawn.

Rhadffôn: 0808 808 2234 neu anfonwch neges testun DAN i: 81066

https://dan247.org.uk/cy/hafan/

Adfam

Darparu cymorth a chyngor ar gyfer teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan gyffuriau ac alcohol

https://adfam.org.uk/help-for-families

Datblygiad Iaith

Cymraeg I Blant

Cychwyn y siwrne ddwyieithog. Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant?

https://llyw.cymru/cymraeg-i-blant

Words for Life

Gweithgareddau a chyngor i rieni fel y gallant helpu eu plant i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a llythrennedd hollbwysig o’u geni tan eu bod yn un ar ddeg oed.

www.wordsforlife.org.uk/

I can

Elusen sy’n gweithio gyda phlant sydd ag anawsterau iaith a lleferydd. Ffoniwch 020 7843 2544 i drefnu galwad ffôn am ddim gan un o’u therapyddion iaith a lleferydd drwy Wasanaeth Ymholiadau Cymorth I CAN neu gallwch e-bostio eich cwestiwn i help@ican.org.uk

www.ican.org.uk

Mudiad Meithrin

Hyrwyddo addysg a datblygiad plant dan 5 oed yn y Gymraeg.

Ffôn 01970 639639, Ffacs 01970 639638

www.meithrin.cymru

BookTrust

Yw’r elusen darllen fwyaf yng Nghymru. Mae ei rhaglenni yng Nghymru yn rhoi cymorth i blant a’i theuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd a mwynhau llyfrau, straeon a rhigymau o oedran cynnar. Mae ei waith yng Nghymru hefyd yn datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd, ac yn helpu rhieni a gofalwyr i roi cymorth i’w phlant i ddarllen a dysgu.

http://www.booktrust.org.uk/cymru/

Cymorth ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol

Contact Cymru

Sefydliad sy’n ymroddedig i helpu teuluoedd sy’n gofalu am blant gydag unrhyw anabledd neu angen ychwanegol.

Llinell Gymorth Am Ddim 0808 808 3555, Ffôn Testun 0808 808 3556, Ffôn 029 2039 6624

https://contact.org.uk/cymru/

Awtistiaeth Cymru

Yw gwefan helpu i wella bywydau pobl awtistig a’u teuluoedd yng Nghymru. Mae yna hefyd ystod eang o adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, sydd wedi cael eu datblygu gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru.

www.awtistiaethcymru.org

Positive about Down syndrome

Yw gwefan sy'n cael ei greu gan rieni sydd â phlant gyda syndrom Down ac yn cynnig cymorth o sgrinio a diagnosis i godi plant hapus a dathlu profiadau eu teuluoedd.

https://positiveaboutdownsyndrome.co.uk/

SNAP Cymru

Gwybodaeth a chymorth i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig.

Llinell Gymorth 0845 120 3730 neu, o ffôn symudol 0345 120 3730. Swyddfa 029 2034 8990.

www.snapcymru.org

Cymorth cyffredinol

Cyngor ar Bopeth

Mae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor o ansawdd da ar fudd-daliadau lles, dyled, cyflogaeth, addysg, tai, mewnfudo a gwahaniaethu.

Gall pobl yng Nghymru gael mynediad i'r gwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm trwy ein rhif Advicelink Cymru: 0800 702 2020.

www.citizensadvice.org.uk/cymraeg

Gig 111 Cymru

Cyngor a gwybodaeth 24 awr y dydd, bob dydd yn Gymraeg a Saesneg.

Ffôn 0845 4647

https://111.wales.nhs.uk/default.aspx?locale=cy

Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant (CAPT)

Prif elusen y DU sy’n gweithio i ostwng nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu lladd, eu hanalluogi neu eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau.

Ffôn 020 7608 3828

www.capt.org.uk

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: Gwybodaeth i rieni

Mae hawliau plant yn amlinellu y pethau sydd ange ar blant i gael y cyfle gorau o dyfu’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.

www.complantcymru.org.uk

Hwb Golau Glas

Yn ap rhad ac am ddim a luniwyd i ddysgu plant 7-12 oed am yr hyn sy’n digwydd pan fyddant yn ffonio 999, defnydd priodol o 999 a sut y caiff adnoddau ambiwlans eu dosbarthu a’u rheoli.

Gallwch lawrlwytho ap Hwb Golau Glas am ddim drwy siop apiau Apple ar gyfer iOS, ac ar Google Play o ddyfais Google Android trwy chwilio naill ai am "Blue Light Hub Hwb Golau Glas" neu "Welsh Ambulance Services NHS Trust Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru".