Neidio i'r prif gynnwy

Darganfyddwch pryd mae rhyddhad anheddau lluosog (MDR) ar gyfer Treth Trafodiadau Tir (TTT) yn berthnasol pan fyddwch yn prynu eiddo yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pan fyddwch yn prynu eiddo yng Nghymru sy'n cynnwys mwy nag un annedd, yn yr un trafodiad (neu drafodiadau cysylltiol), byddwch yn gallu hawlio MDR.

Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • tai gydag anecs
  • tŷ gyda bwthyn ar ei dir
  • neu ddau dŷ drws nesaf i’w gilydd

Pryd y gallwch hawlio'r rhyddhad

Rhaid i bob annedd a gynhwysir yn yr hawliad am MDR fodloni'r prawf o fod yn annedd annibynnol.

Dylai pob annedd fod â:

  • chegin (rhywle i storio, paratoi a choginio bwyd, ac i olchi llestri)
  • ystafell ymolchi (toiled, sinc, a bath neu gawod)
  • lle i fyw a chysgu
  • mynedfa annibynnol

Dylai pob annedd fod yn breifat ac yn ddiogel. Mae hynny'n golygu na ddylech allu symud yn rhydd o un annedd i'r llall, er enghraifft, drwy gyntedd cyffredin.

Os oes drysau cydgysylltiol rhwng yr anheddau, dylai fod yn bosibl eu cloi ar y dyddiad y byddwch yn prynu'r eiddo.

Gan y byddwch yn prynu mwy nag un annedd, bydd angen i chi ystyried a oes rhaid i chi dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir.

Sut i hawlio'r rhyddhad

Rydych yn hawlio MDR ar eich ffurflen dreth.

Os na wnaethoch ei hawlio, a’ch bod yn sylweddoli’n ddiweddarach y dylech fod wedi gwneud hynny, gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth a hawlio ad-daliad o’r dreth ychwanegol a dalwyd gennych. Dim ond o fewn 12 mis i ddyddiad ffeilio ar eich ffurflen dreth wreiddiol y gallwch chi ddiwygio eich ffurflen er mwyn hawlio MDR.

Sut i gyfrifo treth gyda'r rhyddhad

Mae MDR yn rhyddhad rhannol. Mae hyn yn golygu, pan gaiff ei hawlio, y bydd bob amser rhywfaint o TTT yn ddyledus.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell MDR i’ch helpu i gyfrifo faint o dreth i’w thalu.

I weithio allan faint o TTT sy'n daladwy gyda hawliad am MDR, dilynwch y 3 cham hyn:

  1. Cymerwch gyfanswm y pris prynu ar gyfer yr holl anheddau a'i rannu â nifer yr anheddau rydych wedi'u prynu.
  2. Cymerwch y ffigur o gam 1 a chyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar sail y swm hwn. Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell TTT i’ch helpu i gyfrifo hyn.
  3. Cymerwch y ffigur o gam 2 a'i luosi â nifer yr anheddau a ddefnyddiwyd yng ngham 1. Mae hyn yn rhoi cyfanswm y TTT sy'n daladwy.

Gallwch hefyd wylio ein fideos esboniadol byr i gael mwy o wybodaeth am sut i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus.

Enghraifft

Mae Mr A yn prynu 2 annedd cyfagos am £400,000 ar yr un diwrnod oddi wrth yr un gwerthwr. Mae cyfraddau uwch TTT yn berthnasol i'r trafodiad hwn.

Byddai swm y TTT sy’n ddyledus ganddo gan gymhwyso MDR yn cyfrifo fel a ganlyn:

  • 400,000 / 2 = £200,000
  • £200,000 ar gyfraddau uwch TTT = £8,700
  • £8,700 x 2 = £17,400
  • cyfanswm TTT = £17,400

Rheol isafswm treth

Pan fyddwch yn hawlio MDR, mae’n rhaid i chi dalu o leiaf 1% o bris prynu'r eiddo mewn TTT.

Mae hyn yn golygu os byddwch yn dilyn y 3 cham uchod er mwyn cyfrifo ac yn cael ffigur sy’n llai nag 1% o bris prynu'r eiddo, bydd angen i chi gynyddu'r swm ar eich ffurfflen dreth i 1% o'r pris prynu.

Enghraifft

Mae Ms C yn prynu 2 annedd mewn un trafodiad. Y pris prynu oedd £270,000. Mae gan yr anheddau werthoedd unigol o £190,000 ac £80,000. Nid yw’r amodau ar gyfer eithriad is-anheddau yn rheolau cyfraddau uwch trafodiadau eiddo preswyl yn cael eu bodloni. Felly ni fydd cyfraddau uwch yn berthnasol i'r trafodiad.

Gan ddefnyddio'r camau uchod i gyfrifo, byddai'r rhwymedigaeth TTT yn £0. Ond bydd y rheol isafswm treth yn berthnasol yn yr achos hwn gan fod y TTT ar y gydnabyddiaeth a roddir yn llai nag 1% o'r swm hwnnw o gydnabyddiaeth.

Mae'r rheol isafswm treth felly'n golygu bod y dreth sydd i'w hunanasesu yn £2,700 (£270,000 x 1%).

Pan nad yw'r rhyddhad yn berthnasol

Mewn rhai achosion, ni ellir hawlio MDR lle gellir hawlio rhai rhyddhadau eraill, hyd yn oed os byddwch yn penderfynu peidio â’u hawlio neu’n tynnu'n ôl.

Nid yw MDR ar gael ar gyfer trafodiadau lle mae'r rhyddhadau hyn yn cael ei hawlio:

  • rhyddhad grŵp
  • rhyddhad atgyfansoddi a chaffael
  • rhyddhad i elusennau
  • personau sy'n arfer hawliau ar y cyd

Nid yw'r rhyddhad ar gael ar gyfer rhai trafodiadau sy'n ymwneud buddiannau lesddaliad.

Mwy o wybodaeth

Am esboniad manylach, neu os ydych yn ansicr sut mae'r rhyddhad yn berthnasol: