Neidio i'r prif gynnwy

Pan fydd ymddiriedolaethau’n gysylltiedig

  • Os yw'r prynwr yn gweithredu ar ran ymddiriedolaeth noeth, yna rhowch fanylion y buddiolwr.
  • Os yw'r prynwr yn gweithredu fel unrhyw fath arall o ymddiriedaeth (er enghraifft, setliad), rhowch fanylion yr ymddiriedolwyr.
  • Os nad yw'r buddiolwr neu'r ymddiriedolwr yn unigolyn/grŵp o unigolion, rhaid i chi gwblhau'r adran hon.
  • Os yw'r ymddiriedolaeth wedi'i chofrestru, rhowch enw'r ymddiriedolaeth a rhif Cyfeirnod Unigryw Treth yr ymddiriedolaeth (fel y'i rhoddwyd gan CThEM). Os nad yw'r ymddiriedolaeth wedi'i chofrestru, peidiwch â llenwi'r adran hon; dewiswch Unigolyn.

Rhagor o ganllawiau ar ymddiriedolaethau

Pan nad oes ymddiriedolaethau’n gysylltiedig

Os nad yw'r prynwr yn unigolyn/grŵp o unigolion, rhaid i chi lenwi'r adran hon.

Gallwch ddewis prynwyr ychwanegol oddi ar dudalen grynodeb y ffurflen ddrafft.

Enw’r sefydliad

Rhowch enw cyfreithiol cofrestredig y prynwr.

Os yw enw'r prynwr yn hirach na'r lle sydd ar gael, defnyddiwch dalfyriadau.

Enw masnachu’r sefydliad

Rhaid i chi ateb y cwestiwn hwn os yw'r enw masnachu yn wahanol i'r enw cyfreithiol. Rhowch enw masnachu'r prynwr.

Os oes gan y prynwr fwy nag un enw masnachu, rhowch yr enw masnachu sy’n cael ei ystyried yr un sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf neu sy’n fwyaf adnabyddus.

Os yw’r enw masnachu’n hirach na'r lle sydd ar gael, defnyddiwch dalfyriadau.

Cyfeiriad y Sefydliad

Rhowch y cyfeiriad lle gallwn ysgrifennu at y prynwr ar ôl y dyddiad y daw’r trafodiad tir i rym.

Defnyddiwch ‘chwilio cyfeiriad’ i ddod o hyd i’ch eiddo fel bod gennym ddata cywir. Os na allwch chi ddod o hyd i’r cyfeiriad drwy ‘chwilio cyfeiriad’, gallwch ei roi i mewn eich hun.

A yw'r cwmni wedi'i leoli yn y DU?

Atebwch ‘Ydw’ os yw'r canlynol yn berthnasol i'r sefydliad:

  • mae wedi'i leoli yn y DU yn unig
  • mae ei brif swyddfa yn y DU
  • mae ganddo sefydliad parhaol arall (fel y'i diffinnir at ddibenion treth y DU yn adrannau 1141 a 1142 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010) yn y DU

Ym mhob achos arall, atebwch ‘Nac ydy’.

Rhagor o wybodaeth am adrannau 1141 a 1142 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010

Rhif cofrestru Tŷ'r Cwmnïau, os yn berthnasol

Os yw'r sefydliad wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau, rhowch Rif Cofrestru'r Cwmni.

Mae'r rhif hwn ar eich tystysgrif ymgorffori neu unrhyw ddogfen arall y mae Tŷ'r Cwmnïau wedi’i hanfon atoch chi.

Bydd Rhif Cofrestru Cwmni yn gyfuniad o 8 rhif, neu 2 lythyren ac yna 6 rhif. Er enghraifft, 12345678 neu AB123456.

Rhif TAW os yw hynny’n berthnasol

Rhowch y rhif cofrestru TAW. Gwnewch yn siŵr bod y rhif a roddir gennych chi’n rhif cofrestru TAW dilys.

Dylai fod yn 9 digid; er enghraifft, ‘123 4567 89’ a dim nodau alffa. Ni fydd yn dechrau gyda 0. Gallwch ddod o hyd i'r rhif hwn ar Dystysgrif Gofrestru TAW eich cleient neu ar anfonebau y maent yn eu hanfon.

Dulliau adnabod eraill

Os nad oes gan y sefydliad rif TAW neu rif Dŷ'r Cwmnïau, gallwch ddarparu dull gwahanol o adnabod.

Os yw’r prynwr yn fusnes yn gweithredu yn y DU, bydd CThEM wedi darparu’r Cyfeirnod Treth Unigryw a Chyfeirnod Treth Unigryw’r Bartneriaeth / Ymddiriedolaeth. Bydd y rhain yn 10 digid. Bydd y cyfeirnodau hyn ar gael ar ohebiaeth oddi wrth CThEM, neu drwy fewngofnodi i gyfrif ar-lein y prynwr gyda CThEM.

Os yw’r prynwr yn elusen gofrestredig yn y DU, bydd Rhif Cofrestru’r Elusen ar gael ar Dystysgrif Cofrestru Elusen y prynwr, neu gallwch chwilio'r gofrestr elusennau ar GOV.UK.

Os nad yw’r prynwr wedi’i leoli yn y DU, rhowch gyfeirnod y tu allan i’r DU a nodi pa wlad a roddodd y cyfeirnod.

A yw'r prynwr yn gweithredu fel ymddiriedolwr?

Os yw’r buddiant mewn tir yn cael ei gaffael ar ymddiriedaeth a'r prynwr yn ymddiriedolwr neu’n un o sawl ymddiriedolwr, atebwch ‘Ydy’. Atebwch ‘Nac ydy’ ym mhob achos arall.

Sut mae TTT yn berthnasol pan fydd buddiannau mewn ymddiriedolaethau

A oes cysylltiad rhwng y prynwr a’r gwerthwr?

Mae'r diffiniad o ‘gysylltiad’ ar gael yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010. Mae enghreifftiau o bersonau cysylltiedig yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i’r rhain:

  • gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • brawd neu chwaer, ei hynafiaid a'i d/ddisgynyddion uniongyrchol
  • partneriaid busnes a'u perthnasau
  • person a chwmni y maent yn eu rheoli
  • 2 gwmni sy’n cael eu rheoli gan yr un person

Atebwch ‘Oes’ os yw’r prynwr yn gysylltiedig â’r gwerthwr mewn unrhyw ffordd a ddiffinnir yn adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth (CTA) 2010. Fel arall, ateb 'Nac oes'.

Rhagor o ganllawiau am drafodiadau cysylltiol

Gweler y Ddeddf Treth Gorfforaeth